Britheg berlog fach
Britheg berlog fach | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Heb ei werthuso (IUCN 3.1)
| |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Boloria |
Rhywogaeth: | B. selene |
Enw deuenwol | |
Boloria selene (Denis & Schiffermüller, 1775) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg berlog fach, sy'n enw bendywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion perlog bach; yr enw Saesneg yw Small Pearl-bordered Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Boloria selene.[1][2] Mae'r glöyn hwn, sy'n hynod o debyg i'r fritheg berlog i'w ganfod ledled Ewrop ac Asia hyd at Corea; fe'i ceir hefyd yng Ngogledd America.
Yng ngwledydd Prydain mae i'w weld yn y gwledydd Celtaidd ac yn Ardal y Llynnoedd; mae'r niferoedd yn Lloegr, fodd bynnag, yn gostwng yn flynyddol.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Ei hoff fwyd yw mathau gwahanol o fioled, yn enwedig pan fo'n tyfu mewn llefydd damp. Fe'i ceir hefyd ar redyn, pan fo'n tyfu gerllaw fioled.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fritheg berlog fach yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Oedolyn: o'r top
-
O'r ochr
-
Yn cyplysu
-
Darlun o lyfr gan John Curtis: British Entomology Cyfrol 5
-
Britheg berlog fach o'r top
-
Britheg berlog fach △ O'r ochr
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.