Bochotnica
Gwedd
Bochotnica | |
---|---|
Pentref | |
Adfeilion castell yn Bochotnica | |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Voivodeship | Lublin |
Powiat | Puławy |
Gmina | Kazimierz Dolny |
Poblogaeth | 1,000 |
Mae Bochotnica [bɔxɔtˈnit͡sa] yn bentref o fewn rhanbarth weinyddol Gmina Kazimierz Dolny yn nwyrain Gwlad Pwyl, rhwng Puławy a Lublin, ger Kazimierz Dolny, ar Afon Wisła. Saif 42 km i'r gorllewin o Lublin.[1] Mae'n ganolfan cymuned ar wahan o fewn Swydd Puławy. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 1,500.[2]
Saif adfeilion castell o'r 14g gerllaw.
Arferwyd galw'r pentref yn Bochotnica Mała (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â Bochotnica-Kolonia, neu Bochotnica Wielka sydd gerllaw), ac mae'n un o drefanau hynaf Pwyl Leiaf. Arferai fod yn fan pwysig o ran marchnata nwyddau, ond mae bellach yn atyniad hanesyddol i ymwelwyr ac oherwydd ei fod yn agos i Ddyffryn Vistula a Pharc Kazimierz. Mae'r orsaf reilffordd agosaf yn Puławy.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Central Statistical Office (GUS) - TERYT (National Register of Territorial Land Apportionment Journal)". 2008-06-01.
- ↑ Edward Piwowarek: Bochotnica w obiektywie - przyczynek do refleksji. Kazimierz: Kazimierski Ośrodek Kultury, 2010