Blaengroen
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | prepuce, subdivision of urogenital part of male perineum, gendered anatomical structure, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | pidyn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhan o anatomeg ddynol wrywol yw'r blaengroen, sef plygiad o groen a philen ludiog sy'n gorchuddio glans y pidyn ac sy'n diogelu'r meatws wrinol pan nad oes codiad. Gellir tynnu'r blaengroen yn ôl o'r glans, oni bai fod cyflwr megis ffimosis yn effeithio arno. Mae'r blaengroen yn homologaidd ac yn gyfystyr â'r cwfl clitoraidd mewn merched.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Croen sy'n cysylltu colofn y pidyn â chroen pen y pidyn yw rhan allanol y blaengroen, ond mae rhan fewnol y blaengroen yn bilen ludiog megis y tu mewn i'r amrant neu'r geg. Ceir parth mwcocwtanaidd lle mae rhannau allanol a mewnol y blaengroen yn cyffwrdd. Mae'r blaengroen yn rhydd i symud ar ôl iddo wahanu oddi wrth y glans, fel arfer yn ystod glasoed. Mae ffibrau cyhyrog llyfn yn cadw'r blaengroen yn agos at y glans ond yn ei gwneud yn elastig iawn.[1] Mae'r blaengroen ynghlwm wrth y glans gan ffrwynyn y pidyn, sy'n helpu i ddychwelyd y blaengroen dros y glans.
Nododd Taylor et al (1996) bresenoldeb corffilod Krause a math o derfyn nerf a elwir yn gorffilyn Meissner, gyda dwysedd uwch yn y band gwrymiog ar flaen y blaengroen nag yn y bilen ludiog lefn.[2] Mae'r corffilod yn cael eu heffeithio gan oedran: mae eu hamledd yn gostwng wedi'r glasoed.[3] Mewn rhai unigolion ni chafwyd hyd i gorffilod Meissner o gwbl.[4] Astudiodd Bhat et al gorffilod Meissner mewn nifer o rannau'r corff, gan gynnwys "blaenau'r bysedd, y llaw, blaen y fraich, gwadn y droed, gwefusau, y blaengroen, cefn y llaw a chefn y troed". Canfuwyd y mesur isaf o ddwysedd corffilod Meissner yn y blaengroen, a bod y corffilod yn y man hwn yn llai o faint ac o siâp gwahanol. Daethant i'r casgliad bod y nodweddion hyn i'w canfod mewn "rhannau llai sensitif o'r corff".[5] Yn y 1950au, awgrymodd Winkelmann fod rhai derbynyddion wedi eu camadnabod am gorffilod Meissner.[6][7]
Yn ôl Coleg Meddygon a Llawfeddygon British Columbia, mae'r blaengroen "yn cynnwys croen allanol a philen ludiog fewnol sy'n llawn terfynau nerfau o synhwyredd arbenigol a meinwe erogenaidd."[8]
Swyddogaethau
[golygu | golygu cod]Dywed Sefydliad Iechyd y Byd bod "dadl dros swyddogaeth y blaengroen, a bod ei swyddogaethau posib yn cynnwys: cadw'r glans yn llaith, amddiffyn y pidyn datblygol yn y groth, neu wella pleser rhywiol o ganlyniad i bresenoldeb derbynyddion nerfol".[9]
Rhywiol
[golygu | golygu cod]Mae Whiddon (1953), Foley (1966), a Morgan (1967) yn credu bod presenoldeb y blaengroen yn gwneud treiddio rhywiol yn haws.
Disgrifia Moses a Bailey (1998) ei swyddogaeth teimlyddol fel "swyddogaeth anuniongyrchol", gan ddweud, "ar wahân i adroddiadau anecdotaidd, ni phrofwyd fod y blaengroen yn gysylltiedig â phleser rhywiol yn y rhan fwyaf o ddynion." Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (2007): "Er bod cryn ddadlau y gallai swyddogaeth rhywiol leihau yn dilyn enwaediad (ac o ganlyniad i hyn, gwaredu'r terfynau nerfol yn y blaengroen a tewychu epithelia y glans), prin yw'r dystiolaeth ar gyfer hyn ac mae'r astudiaethau'n anghyson. Barn Fink et al. (2002) yw "er bod llawer wedi dyfalu am effaith o blaengroen ar swyddogaeth rhywiol, mae'r wybodaeth gyfoes yn seiliedig ar anecdotau yn hytrach na thystiolaeth wyddonol." Datganodd Masood et al. (2005) "ar hyn o bryd nid oes consensws yn bodoli ynghylch rôl y blaengroen." Tebyg hefyd yw barn Schoen (2007): "yn anecdotaidd, mae rhai wedi honni bod y blaengroen yn bwysig ar gyfer gweithgaredd rhywiol, normal a'i fod yn gwella sensitifrwydd rhywiol. Mae astudiaethau cyhoeddedig Amcan dros y ddegawd diwethaf wedi dangos nad oes unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn swyddogaeth rhywiol rhwng dynion sydd wedi'u henwaedu a dynion dienwaededig. "
Mae'r term 'gleidio gweithredol' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai papurau i ddisgrifio'r ffordd y mae'r blaengroen yn symud yn ystod cyfathrach rywiol. Mae'r mecanwaith hwn yn cael ei ddisgrifio gan Lakshamanan a Prakash yn 1980: "mae haen allanol y prepuce yn gyffredin â chroen colofn y pidyn gan ganiatau iddo lithro'n rhydd yn ôl ac ymlaen ..." Mae nifer o bobl wedi dadlau bod y symudiad gleidio'n bwysig yn ystod cyfathrach rywiol. Datganodd Warren a Bigelow (1994) fod gleidio gweithredol yn helpu i leihau effeithiau sychder yn y fagina, a bod adfer y camau gleidio yn fantais bwysig o adfer blaengroen. "Mae'r gleidio hwn," medd O'Hara (2002) "yn lleihau ffrithiant yn ystod cyfathrach rywiol, ac yn awgrymu ei fod yn ychwanegu'n "amhrisiadwy i'r cysur a phleser y ddwy ochr". Yn 2000 awgrymodd Taylor fod y gleidio hwn yn ysgogi nerfau y band crib.
Mae Coleg Meddygaeth Brenhinol Awstralasia yn datgan bod y blaengroen yn gwarchod y glans, a'i fod yn rhan synhwyraidd sylfaenol bwysig o'r pidyn, ac yn cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf sensitif y pidyn. Nid yw'n gwbwl glir a oes sgileffeithiau ar y teimlad rhywiol yn dilyn enwaediad, fodd bynnag.
Amddiffynnol ac imiwnolegol
[golygu | golygu cod]Gairdner (1949) yn datgan bod y blaengroen yn amddiffyn y glans. Y gorlan y prepuce cynnal is-blaengroenol gwlypter, sy'n cymysgu gyda chroen exfoliated i ffurfio smegma. Mae rhai awduron yn credu bod smegma yn cynnwys ensymau gwrthfacterol, er bod eu theori wedi cael ei herio. Mae Academi Americanaidd o Pediatrics (1999) yn datgan bod "dim data a reolir gwyddonol ar gael ynghylch gwahanol swyddogaeth imiwnedd mewn pidyn gyda neu heb blaengroen. " hylendid Isaf wedi bod yn gysylltiedig â balanitis, er y gall golchi gormodol achosi amhenodol dermatitis.
Esblygiad
[golygu | golygu cod]Yn primatiaid, mae'r blaengroen yn bresennol yn y genitalia o'r ddau ryw ac yn debygol wedi bod yn bresennol am filiynau o flynyddoedd o esblygiad. Gall y esblygiad morphologies penile cymhleth fel y blaengroen wedi cael eu dylanwadu gan fenywod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lakshmanan S, Prakash S. Human prepuce - some aspects of structure & function. Indian J Surg. 1980;44:134–7.
- ↑ Taylor, JR; Lockwood, AP; Taylor, AJ (1996). "The prepuce: specialized mucosa of the penis and its loss to circumcision". Br J Urol 77 (2): 291–5. doi:10.1046/j.1464-410X.1996.85023.x. PMID 8800902. http://www.doi.org/10.1046/j.1464-410X.1996.85023.x.
- ↑ Dong G, Sheng-mei X, Hai-yang J, et al. Observation of Meissner's corpuscle on fused phimosis. J Guangdong Medical College. 2007 [archived 2011-07-07; cited 2013-03-16].
- ↑ Haiyang J, Guxin W, Guo Dong G, Mingbo T et al.. Observation of Meissner's corpuscle in abundant prepuce and phimosis. J Modern Urol. 2005 [archived 2011-07-07; cited 2013-03-16].
- ↑ Bhat GM, Bhat MA, Kour K, Shah BA. Density and structural variations of Meissner's corpuscle at different sites in human glabrous skin. J Anat Soc India. 2008 [archived 2013-12-04; cited 2013-03-16];57(1):30–33.
- ↑ Winkelmann RK. The cutaneous innervation of human newborn prepuce. J Investigative Dermatol. 1956 [archived 2013-10-29; cited 2013-03-16];26(1):53–67. doi:10.1038/jid.1956.5. PMID 13295637.
- ↑ Winkelmann RK. The mucocutaneous end-organ: the primary organized sensory ending in human skin. AMA Arch Dermatol. 1957;76(2):225–35. PMID 13443512.
- ↑ College of Physicians and Surgeons of British Columbia (2009). "Circumcision (Infant Male)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-12-23. Cyrchwyd April 22, 2012.
- ↑ "Male circumcision: Global trends and determinants of prevalence, safety and acceptability" (PDF). World Health Organization. t. 13. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-07-15. Cyrchwyd 2013-03-16.