Bernice Rubens
Bernice Rubens | |
---|---|
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1923 Caerdydd |
Bu farw | 13 Hydref 2004 o strôc Royal Free Hospital |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Gwobr/au | Gwobr Man Booker |
Nofelydd o Gymraes oedd Bernice Rubens (26 Gorffennaf 1928 – 13 Hydref 2004). Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Booker, yn 1970 am The Elected Member.
Fe'i ganed yn ardal Splott, Caerdydd yn ferch i Eli Reuben, mewnfudwyr Iddewig a'i wraig Dorothy. Roedd ei thad yn hannu o Lithwania ac yn bwriadu teithio i Efrog Newydd am fywyd newydd yn yr UDA. Ar ôl cael ei dwyllo gan werthwr tocynnau yn Hamburg, ni gyrhaeddodd yn bellach na Chaerdydd a penderfynodd aros yno. Roedd teulu ei mam wedi ffoi o Wlad Pwyl.[1]
Ysgrifennodd Rubens 24 o nofelau, a’u themau’n amrywio o deulu i Iddewiaeth.
Yn Mehefin 2024, dadorchuddiwyd Plac Porffor ar hen dŷ ei theulu yn y Rhath, Caerdydd. Cafodd cynllun Placiau Porffor ei lansio yn 2017 gan wirfoddolwyr er mwyn gwella ymwybyddiaeth o gyfraniad menywod yng Nghymru.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Set on Edge (1960)
- Madame Sousatzka (1962)
- Mate in Three (1966)
- The Elected Member (1969) (Gwobr Booker 1970)
- Sunday Best (1971)
- Go Tell the Lemming (1973)
- I Sent a Letter To My Love (1975)
- The Ponsonby Post (1977)
- A Five-Year Sentence (1978)
- Spring Sonata (1979)
- Birds of Passage (1981)
- Brothers (1983)
- Mr Wakefield's Crusade (1985)
- Our Father (1987)
- Kingdom Come (1990)
- A Solitary Grief (1991)
- Mother Russia (1992)
- Autobiopsy (1993)
- Hijack (1993)
- Yesterday in the Back Lane (1995)
- The Waiting Game (1997)
- I, Dreyfus (1999)
- Milwaukee (2001)
- Nine Lives (2002)
- The Sergeants' Tale (2003)
- ↑ "Dadorchuddio Plac Porffor er cof am y Gymraes gyntaf i ennill Gwobr Booker". Golwg360. 2024-06-21. Cyrchwyd 2024-06-21.
- ↑ Morris, Steven (2024-06-21). "Bernice Rubens, first woman to win Booker, honoured with Cardiff plaque". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-06-21.