Neidio i'r cynnwys

Athrawiaeth Eisenhower

Oddi ar Wicipedia
Athrawiaeth Eisenhower
Enghraifft o:athrawiaeth arlwyddol yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Ionawr 1957 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Athrawiaeth polisi tramor a broffeswyd gan lywodraeth Unol Daleithiau America yn ystod y Rhyfel Oer oedd Athrawiaeth Eisenhower a oedd yn addo cymorth milwrol neu economaidd i unrhyw wlad yn y Dwyrain Canol a oedd yn brwydro'n erbyn gwrthryfel neu oresgyniad comiwnyddol. Fe'i datganwyd gan Dwight D. Eisenhower, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar 5 Ionawr 1957. Nod yr athrawiaeth oedd i rwystro maes dylanwad yr Undeb Sofietaidd rhag ymledu i'r Dwyrain Canol. Ffurfiwyd y polisi hwn yn sgil argyfwng Suez (29 Hydref–7 Tachwedd 1956), gwrthdaro a achosodd y Sofietiaid a gwledydd comiwnyddol eraill i ddarparu arfau i'r Aifft. Bu'r bloc comiwnyddol yn datgan cefnogaeth dros y byd Arabaidd yn wyneb ymosodedd yr hen ymerodraethau Prydeinig a Ffrengig, yn ogystal â gwladwriaeth newydd Israel. Parhad o bolisi cyfyngiant, ymdrechion yr Unol Daleithiau i atal ymlediad comiwnyddiaeth, oedd Athrawiaeth Eisenhower, a oedd yn debyg i Athrawiaeth Truman (1947) a wnaeth addo cymorth i Wlad Groeg a Thwrci yn wyneb dylanwad Sofietaidd.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Eisenhower Doctrine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mawrth 2020.