Ardudwy Uwch Artro
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.86°N 4.105°W |
Cwmwd canoloesol ar lan ogleddol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Ardudwy Uwch Artro. Gydag Ardudwy Is Artro, cafodd ei ffurfio allan o hen gantref Ardudwy.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dynodai Afon Artro y ffin rhwng Uwch Artro ac Is Artro i'r de. Y ffin naturiol yn y gogledd oedd y Traeth Mawr, Nant Gwynant a'r Moelwynion. Yn ogystal ag Is Artro, ffiniai'r cwmwd ag Eifionydd, darn deheuol o Arfon Is Gwyrfai (cantref Arfon) a Nant Conwy (cantref Arllechwedd) yn y gogledd, Uwch Tryweryn (cantref Penllyn) i'r dwyrain, a darn o gwmwd Tal-y-bont (cantref Meirionnydd) yn y de-ddwyrain.[1]
Cwmwd mynyddig, gyda bryniau creigiog y Rhinogydd yn ei ganol, oedd Uwch Artro. Harlech, sedd frenhinol Bendigeidfran yn y Mabinogi, oedd prif ganolfan y cwmwd.[1] Roedd y llannau yn cynnwys Llanfrothen, Maentwrog, Llandanwg a Llanfihangel-y-traethau. Roedd y plasdai yn niferus ac yn cynnwys Cynfal a Maesygarnedd. Yn ogystal â Chastell Harlech roedd yna gestyll eraill; Castell Prysor, Castell Deudraeth, a chastell mwnt a beili Tomen y Mur, safle hen gaer Rufeinig.
Yn fuan yn ei hanes daeth y diriogaeth yn rhan o Deyrnas Gwynedd a dan awdurdod eglwysig Esgobaeth Bangor. Daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd fel rhan o drefniant Statud Rhuddlan yn 1282.[1] Heddiw mae'n gorwedd yng Ngwynedd.
Plwyfi
[golygu | golygu cod]Erbyn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir naw plwyf yn y cwmwd:
- Ffestiniog
- Llanbedr
- Llandanwg
- Llandecwyn
- Llanfair
- Llanfihangel-y-traethau
- Llanfrothen
- Maentwrog
- Trawsfynydd