Angola
Gweriniaeth Angola República de Angola | |
Arwyddair | Virtus Unita Fortior |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Luanda |
Poblogaeth | 32,866,270 |
Sefydlwyd | 11 Tachwedd 1975 (Annibyniaeth oddi wrth Portiwgal |
Anthem | Angola Avante |
Pennaeth llywodraeth | João Lourenço |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Luanda |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica, Gwledydd Affricanaidd sy'n siarad Portiwgaleg, De Affrica |
Gwlad | Angola |
Arwynebedd | 1,246,700 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Namibia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Sambia, Gweriniaeth y Congo, Gabon |
Cyfesurynnau | 12.35°S 17.35°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Angola |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Angola |
Pennaeth y wladwriaeth | João Lourenço |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Angola |
Pennaeth y Llywodraeth | João Lourenço |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $65,685 million, $106,714 million |
Arian | Kwanza |
Canran y diwaith | 7 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 6.08 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.586 |
Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Angola neu Angola (ym Mhortiwgaleg: República de Angola). Mae hi ar arfordir Cefnfor yr Iwerydd a gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo i'r gogledd, Sambia i'r dwyrain, a Namibia i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1975. Prifddinas Angola yw Luanda.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Angola yn wlad yn ne-orllewin Canolbarth Affrica ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd i'r de o Afon Congo ac eithrio Llain Cabinda a wahanir o weddill y wlad gan ddarn o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyrhaeddodd y Portiwgaliaid Angola ar ddiwedd y 15g. Yn raddol cawsai'r wlad ei meddiannu ganddynt a'i throi'n drefedigaeth Bortiwgalaidd. Arosodd dan reolaeth Portiwgal hyd 1975 (ac eithrio cyfnod byr ym meddiant yr Iseldiroedd o 1641 hyd 1648).
Yn 1951 cafodd ei gwneud yn Dalaith Dramor ac felly'n rhan integreiddiedig o Bortiwgal. Yn ystod y 1950au a'r 1960au tyfodd cenedlaetholdeb Angolaidd a ffurfiwyd tri mudiad annibyniaeth: yr MPLA (Mudiad Poblogaidd dros Ryddid i Angola), yr FNLA (Ffrynt Cenedlaethol dros Ryddid i Angola) ac UNITA (Undeb Cenedlaethol dros Ryddid Llwyr i Angola).
Yn 1974 cytunodd Portiwgal mewn egwyddor i roi annibyniaeth i'r wlad, ond yn wyneb anghydfod rhwng y tri mudiad annibyniaeth a gwrthwynebiad yr ymsefydlwyr Portiwgalaidd torrodd rhyfel cartref allan rhwng y carfanau hynny. Meddianwyd gwahanol rannau o'r wlad gan bob un o'r carfanau arfog. Pan grantiwyd annibyniaeth y canlyniad oedd i'r MPLA gyhoeddi ei llywodraeth ei hun yn Luanda dan yr enw Gweriniaeth Pobl Angola ac i'r FNLA a'i cynghreiriaid UNITA gyhoeddi Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Angola â'i phrifddinas yn Huambo. I gymhlethu'r darlun, roedd yr MPLA yn cael ei cefnogi gan yr Undeb Sofietaidd a Ciwba tra roedd yr FNLA yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd Ewropeaidd. Cafodd UNITA gryn gefnogaeth gan lywodraeth apartheid De Affrica. Am gyfnod anfonodd Ciwba filwyr i helpu'r MPLA ac aeth Che Guevara ei hun yno i helpu'r llywodraeth newydd. Enillodd y MPLA yn y diwedd ond cafodd y rhwygau a achoswyd gan y rhyfel effaith hir-dymor ar fywyd gwleidyddol ac economaidd y wlad.
Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Bantu o ran eu tras yw mwyafrif y bobl. Ceir hefyd bobl o dras gymysg a nifer bach o bobl o dras Bortiwgalaidd ac Ewropeaidd. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gristnogion Catholig.
Economi
[golygu | golygu cod]Mae Angola'n mwynhau cyfoeth o adnoddau mwynol, yn cynnwys olew, haearn a deiamwntau. Mae tyfu coffi ar gyfer y farchnad dramor yn elfen bwysig yn economi'r wlad yn ogystal.
Unedau gweinyddol
[golygu | golygu cod]- Prif: Taleithiau Angola
Rhennir Angola yn ddeunaw talaith (províncias) a 158 ardaloedd dinesig (municípios). Y taleithiau yw:
1 Bengo
2 Benguela
3 Bié
4 Cabinda
5 Cuando Cubango
6 Cuanza Norte
7 Cuanza Sul
8 Cunene
9 Huambo
10 Huila
11 Luanda
12 Lunda Norte
13 Lunda Sul
14 Malanje
15 Moxico
16 Namibe
17 Uige
18 Zaire