Alfred Janes
Gwedd
Alfred Janes | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1911 Abertawe |
Bu farw | 3 Chwefror 1999 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd |
Arlunydd o Gymro oedd Alfred Janes (30 Mehefin 1911 – 3 Chwefror 1999), ac aelod o gylch Dylan Thomas a Vernon Watkins.
Ganed Janes yn Abertawe; cyfarfu â Dylan Thomas, a oedd yn iau nag ef, yn Ysgol yr Esgob Gore. Roedd y cyfansoddwr Daniel Jones yn gyfaill i'r ddau. Astudiodd Janes yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain tra y bu Thomas yn y ddinas honno, ac fe beintiodd tri portread o'r bardd yn y 1930au. Hefyd peintiodd Janes bortreadau o Vernon Watkins a'r artistiaid James Govier, William Grant Murray a Gwilym Thomas. Gellir gweld ei waith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn ei dre enedigol.