Alexander Crichton
Alexander Crichton | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1763 Newington, Caeredin |
Bu farw | 4 Mehefin 1856 Sevenoaks |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg |
Tad | Alexander Crichton |
Mam | Barbara Boyes |
Priod | Frances Dodwell |
Plant | Constantine Crichton, Lucy Crichton, Alexandrina Crichton, Jessie Harriet Crichton, Mary Crichton, Frances Margaret Crichton, Alexander Crichton |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
Meddyg o'r Alban oedd Alexander Crichton (2 Rhagfyr 1763 - 4 Mehefin 1856). Meddyg ac awdur Albanaidd ydoedd. Rhwng 1804 a 1819 bu'n feddyg personol i Tsar Alexander I o Rwsia ac i Maria Feodorovna, Ymerodres Dowager, roedd hefyd yn bennaeth ar wasanaethau meddygol yn Rwsia. Cafodd ei eni yn Newington, Caeredin, Y Deyrnas Unedig ac addysgwyd ef ym Mhrifysgol Caeredin. Bu farw yn Sevenoaks[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Crichton yn Newington, Caeredin, yn fab i Alexander Crichton, gwneuthurwr coetsis a Barbara (née Boyes) ei wraig.
Ym mis medi 1800 priododd Frances merch Edward Dodwell, o West Molesey, swydd Surrey, etifedd ystâd yn yr Iwerddon. Bu iddynt bedwar o blant.
Addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysgu yn ysgol y Canongate ac Ysgol Uwchradd Caeredin. Aeth yn brentis i'r llawfeddyg Alexander Wood ym 1779 ac fe fu hefyd yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin o 1779 i 1784 gan ddyfod yn aelod o'r Gymdeithas Ffisegol Frenhinol ym 1784. Aeth i Lundain am flwyddyn gan ennill profiad o weithio mewn ysbytai. Graddiodd MD o brifysgol Leiden ym 1785. Gwariodd blwyddyn ym Mharis yn astudio meddyginiaeth cyn mynychu ysbytai clinigol blaenllaw yn Stuttgart, Fienna, Halle, Berlin, Prag, a Göttingen[2].
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi dychwelyd i Lundain dechreuodd Crichton gyrfa fel llawfeddyg ac aelod o Gwmni'r Llawfeddygon o 1789 hyd 1791. Ym 1791 daeth yn drwyddedog o Goleg Brenhinol y Ffisegwyr ac yn aelod o Gymdeithas y Ffisegwyr Colegol ym 1792. Bu'n gweithio fel ffisegwr yn Holburn ac yn Ysbyty Westminster. Bu hefyd yn darlithio ar bynciau meddygaeth a chemegol. Ymddiswyddodd o Ysbyty Westminster ym 1801 pan gafodd ei benodi'n ffisigwr i'r Tywysog George, Ddug Caergrawnt.
Ym mis Mai 1803 cafodd Crichton ei ethol yn aelod llythyru tramor o Academi Gwyddorau Rwsia a daeth i sylw teulu brenhinol Rwsia. Cafodd ei wahodd i wasanaethu fel ffisigwr personol Tsar Alexandra I a Maria Feodorovna ei fam. Fel rhan o'i waith ar gyfer y fam frenhines bu'n gwasanaethu fel meddyg yn ei ysbytai i blant amddifad a thlodion sâl. Ym 1807 fe'i hapwyntiwyd yn feddyg cyffredinol adran meddygaeth sifil Rwsia. Fel cydnabyddiaeth am ei ymdrechion wrth ymdrin ag epidemig difrifol o golera yn Nhaleithiau de dwyreiniol y wlad cafodd ei godi'n Marchog Croes Mawr yn Urdd St Vladimir[3].
Ymddeolodd Crichton o'i wasanaeth yn Rwsia ym 1819, gan ddychwelyd am gyfnod byr ym 1820 i drin yr Uchel Dduges Aleksandra Fyodorovna, gwraig Nicholas etifedd yr orsedd. Un o Brwsia, yn wreiddiol oedd yr Uchel Dduges, cafodd Crichton ei godi yn Farchog Croes Mawr yn Urdd yr Eryr Coch gan Frederick William IV Brenin Prwsia ym 1820[4].
Fe wnaed yn Farchog Baglor gan Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig ym 1821 wedi iddo drin ei wraig y Frenhines Caroline bu farw ym 1821. Cafodd pensiwn gan Tsar Nicholas ym 1826 ac fe'i gwnaed yn Farchog Croes Mawr (dosbarth cyntaf) yn Urdd St Anne ym 1830.
Daeareg
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â bod yn feddyg roedd Crichton hefyd yn ddaearegwr nodedig. Fe wnaed yn aelod o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn 1819. Roedd casgliad helaeth o fwynau Crichton yn cynnwys sbesimenau o Siberia, Rwsia, Norwy, Hwngari, yr Almaen, y DU, yr Unol Daleithiau ac India. Cafodd y rhain eu prynu yn ystod ei gyfnod fel meddyg i Alexander I o Rwsia ac yn ystod ei deithiau ledled Ewrop pan oedd yn astudio meddygaeth.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- An Inquiry into the Nature and Origin of Mental Derangement (1798). Un o'r llyfrau cyntaf i ddisgrifio'r hyn sydd bellach yn cael ei alw'n Anhwylder diffyg sylw gorfywiogrwydd (ADHD)[5]
- A Synoptical Table of Diseases (1804)
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref, The Grove, Seal, Sevenoaks, Swydd Caint, yn 92 mlwydd oed a chladdwyd ef yn fynwent Norwood.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Enillodd Alexander Crichton y gwobrau canlynol o ganlyniad i'w waith:
- Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol
- Marchog Croes Mawr Urdd St Vladimir
- Marchog Baglor Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
- Marchog Croes Mawr Urdd yr Eryr Coch
- Marchog Croes Mawr Urdd St Anne (dosbarth Cyntaf)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Appleby, J. (2004-09-23). Crichton, Sir Alexander (1763–1856), physician and author. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 21 Chwefror 2018
- ↑ Royal College of Physicians of London Munk's Roll - Lives of the Fellows- Alexander (Sir) Crichton Archifwyd 2015-10-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Chwefror 2018
- ↑ The Royal Society journal of the history of science 22 Mai 1999, Cyfrol 53, rhan 2; R.H Appleby Sir Alexander Crichton, F.R.S. (1763-1856), imperial Russian physician at large
- ↑ The Royal Society journal of the history of science 1 March 1984 Cyfrol 38, rhif 2 E. M. Tansey The life and works of Sir Alexander Crichton, F. R. S. (1763-1856): a Scottish physician to the Imperial Russian Court
- ↑ History of ADHD Sir Alexander Crichton adalwyd 22 Chwefror 2018