Ahinoam
Enw Hebraeg yw Ahinoam (Hebraeg: אֲחִינֹעַם) sy'n golygu brawd pleserau [1]
Mae dau gyfeiriad yn y Beibl at bobl sy'n dwyn yr enw:
Ahinoam #1
[golygu | golygu cod]Roedd yr Ahinoam gyntaf yn ferch i Ahimaas.[2] Hi oedd gwraig Saul, brenin cyntaf Israel. Roedd hi'n fam i dri o fechgyn sy'n cael eu henwi Jonathan, Issui, a Malci-sua a dwy ferch; Merab a Michal. Cynigiodd Saul law Merab mewn priodas i Dafydd, ond fe wrthododd hi gan briodi Michal y ferch iau.
Ahinoam #2
[golygu | golygu cod]Dynes o Jesreel oedd yr ail Ahinoam.[3] Wedi anghydfod gyda Saul fe ffodd Dafydd i aros gyda Achis mab Maoch, brenin Gath, gadawodd Michal, ei wraig gyntaf gyda Saul ei thad ond aeth ag Ahinoam ac Abigail gydag ef.[4] Tra bod Dafydd a'i ddynion yn gwersylla ger Jesreel, cânt eu cipio gan Amaleciaid a oedd wedi ysbeilio tref Siclag a dygwyd ei ddwy wraig yn wystlon.[5] Arweiniodd Dafydd gyrch yn erbyn yr ymlidwyr gan achub ei wragedd. Esgorodd Ahinoam ar fab cyntaf Dafydd, Amnon.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net