Kevin Spacey
Kevin Spacey | |
---|---|
Ganwyd | Kevin Spacey Fowler 26 Gorffennaf 1959 South Orange Village |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, cynhyrchydd teledu, actor, cyfarwyddwr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Perthnasau | Daniel Fowler, Josh Sartain |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, KBE, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, British Academy Television Award for Best International Programme, Golden Globe Award for Best Actor – Television Series Drama, Gwobr Tony, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain |
Gwefan | https://kevinspacey.com |
Actor, cynhyrchydd, sgriptiwr a chyfarwyddwr Americanaidd yw Kevin Spacey Fowler (ganwyd 26 Gorffennaf 1959). Cafodd ei fagu yng Nghaliffornia, a dechreuodd ei yrfa ym myd actio yn ystod y 1980au. Ar ddechrau'r 1990au, derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei waith a derbyniodd ei Wobr yr Academi gyntaf am ei rôl gefnogol yn The Usual Suspects. Derbyniodd ei ail wobr am yr actor gorau yn y ffilm American Beauty (1999).
Rhwng 2003 a 2015 Spacey oedd cyfarwyddwr creadigol theatr yr Old Vic yn Llundain. Aeth ymlaen i serennu fel Frank Underwood yng nghyfres ddrama wleidyddol Netflix House of Cards.
Honiadau o gamymddwyn rhywiol
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 2017, gwnaed cyhuddiad gan yr actor Anthony Rapp fod Spacey wedi ymddwyn mewn modd rywiol amhriodol ag ef pan oedd yn 14 oed.[1][2] Yn sgil cyhuddiad Rapp, daeth sawl dyn arall ymlaen i honni fod Spacey wedi eu aflonyddu neu ymosod arnynt yn rhywiol.[3][4] O ganlyniad, gohiriodd Netflix y gwaith cynhyrchu ar House of Cards am gyfnod cyn penderfynu terfynu ei gysylltiad a'r gyfres, a penderfynwyd peidio ryddhau ei ffilm Gore ar eu gwasanaeth.[5][6] Roedd Spacey wedi saethu golygfeydd fel J Paul Getty yn ffilm Ridley Scott All the Money in the World. Penderfynodd y cyfarwyddwr gastio Christopher Plummer gan ddisodli Spacey ac fe ail-saethwyd nifer o olygfeydd gyda'r actor newydd cyn ryddhau y ffilm.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kevin Spacey yn ymddiheuro dros honiadau rhywiol , Golwg360, 30 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 10 Tachwedd 2017.
- ↑ Felman, Kate (29 Hydref 2017). "Anthony Rapp accuses Kevin Spacey of trying to seduce him when he was 14". New York Daily News. Cyrchwyd October 29, 2017.
- ↑ Miller, Mike (2 Tachwedd 2017). "Kevin Spacey accused of sexual misconduct by eight House of Cards employees: report". People. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2017.
- ↑ Brown, Mark; Weaver, Matthew (2 Tachwedd 2017). "Kevin Spacey: Old Vic accused of ignoring sexual misconduct allegations". The Guardian. Cyrchwyd 3 November 2017.
- ↑ Stanhope, Kate; McClintock, Pamela (3 Tachwedd 2017). "Netflix severs ties with Kevin Spacey, drops 'Gore' movie". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2017.
- ↑ Staff writer (3 Tachwedd 2017). "Kevin Spacey: Netflix severs ties amid sex assault allegations". BBC News. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2017.
- ↑ Fleming Jr, Mike (8 Tachwedd 2017). "Shocker: Kevin Spacey dropped from 'All The Money In The World;' J Paul Getty role recast with Christopher Plummer". Deadline.com. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2017.