Neidio i'r cynnwys

Ffordd Rufeinig

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Ffordd Rufeinig a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 03:33, 4 Ionawr 2017. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Ffordd yn Pompeii

Ffordd Rufeinig yw'r term a ddefnyddir am ffordd a adeiladwyd yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain neu Ymerodraeth Rhufain. Roedd rhwydwaith o ffyrdd yn cysylltu dinas Rhufain a gwahanol rannau o'r ymerodraeth, yn galluogi byddinoedd Rhufeinig i symud yn gyflym o le o le. Roeddynt hefyd o fudd mawr i fasnachwyr ac eraill, er mai milwrol oedd eu prif bwrpas. Hyd ar y 18g roedd llawer ohonynt yn parhau i gael eu defnyddio.

Yn ôl Ulpianus, gellid dosbarthu ffyrdd Rhufeinig yn dri dosbarth:

  1. Viae publicae, consulares, praetoriae neu militares
  2. Viae privatae, rusticae, glareae neu agrariae
  3. Viae vicinales

Heblaw'r dosbarthiad yma, roedd Ulpianus hefyd yn gwahanu'r ffyrdd yn dri dosbarth o ran y dull o'u hadeiladu:

  1. Via terrena: Ffordd bridd.
  2. Via glareata: Ffordd bridd. gyda gwyneb o gerrig mân.
  3. Via munita: Ffordd wedi eu hadeiladu gyda sylfaeni a gwyneb o flociau cerrig.

Ffyrdd Rhufeinig pwysig

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato