Neidio i'r cynnwys

Aquitaneg

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Aquitaneg a ddiwygiwyd gan CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau) am 01:31, 18 Awst 2014. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Tiriogaeth yr Aquitani

Aquitaneg oedd yr iaith a siaredid gan bobl yr Aquitani, a oedd yn trigo yn yr ardal a adwaenid gan y Rhyfeiniaid fel Novempopulania, yn ddiweddarach Aquitaine yn ne-orllewin Ffrainc.

Mae'r iaith o ddiddordeb oherwydd fod tystiolaeth o enwau lleoedd ac archaeoleg sy'n awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau yn yr iaith Aquitaneg.