Y Dwyrain Agos
Gwedd
Term daearyddol yw'r Dwyrain Agos sy'n cyfeirio at ardal yn y Dwyrain Canol. Mae ei union ddiffiniad yn amrywio.
Cyn 1918, yn ystod dyddiau Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd y term yn cynnwys Twrci, y Balcanau, y Lefant, a'r Aifft. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y Dwyrain Canol yn cyfeirio at Arabia, y Gwlff, Persia, Mesopotamia, ac Affganistan.[1]
Heddiw, mae'r term yn aml yn cynnwys gwledydd y Dwyrain Canol sy'n ffinio â Môr y Canoldir, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Affrica a de-orllewin Asia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mansfield, Peter. A History of the Middle East (Llundain, Penguin, 2013 [1991]), 4ydd argraffiad wedi'i adolygu gan Nicolas Pelham, t. 1.