Neidio i'r cynnwys

Sky Brown

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Sky Brown a ddiwygiwyd gan Sionk (sgwrs | cyfraniadau) am 10:32, 10 Awst 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Sky Brown
Ganwyd7 Gorffennaf 2008 Edit this on Wikidata
Miyazaki Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig Baner Japan Japan
Galwedigaethsglefr-fyrddwr, syrffiwr Edit this on Wikidata
Taldra1.54 metr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Sky Brown (Japaneg: スカイ・ブラウン; ganwyd 12 Gorffennaf 2008)[1][2] yn sglefrfyrddiwr Prydeinig-Japaneaidd, sy'n cystadlu dros Brydain Fawr. Roedd hi'r sglefrfyrddiwr proffesiynol ieuengaf yn y byd pan gystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020.[3] Enillodd medal efydd yng nghystadleuaeth yn 2020[4] wedyn efydd yng Ngemau Olympaidd 2024

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sky ym Miyazaki, Japan, yn ferch i mam Siapaneaidd, a tad Seisnig.[5][6] Ei henw Siapaneaidd yw Sukai. [7][8]

Roedd ei thad yn byw yn yr Unol Daleithiau America am sawl blwyddyn cyn symud i Japan. [9] Mae Brown yn treulio tua hanner y flwyddyn yn yr Deyrnas Unedig. Bellach mae ganddi ramp sglefrio yn ei gardd gefn,[10] gan nad oes parciau sglefrio yn ardal ei chartref yn Takanabe, Miyazaki.[8] Ar wahân i sglefrfyrddio, mae hi'n ddiddordeb mewn syrffio.[6][11]

Gemau Olympaidd

[golygu | golygu cod]

Roedd Brown yn un o bum Prydeiniwr a geisiodd gymhwyso ar gyfer y digwyddiadau sglefrfyrddio yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Japan, y tro cyntaf y bydd y gamp yn cael ei chynnwys yn y gemau.[6][12] Ym mis Mehefin 2021, dewisodd Brown i gynrychioli Prydain Fawr mewn sglefrfyrddio yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020. [13] Fydd hi'r Olympiad Haf Prydeinig ieuengaf erioed, yn 13 oed.[14] Nid oes disgwyl i Brown fod y cystadleuydd ieuengaf yn y Gemau, gan fod chwaraewr tenis bwrdd Syria, Hend Zaza, yn iau na hi.[15]

Enillodd hi fedal efydd yn y Gemau 2020 yn y gystadleuaeth sglefrfyrddio parc i fenywod, gan ddod y person Prydeinig ieuengaf erioed i ennill medal.[16]

Cystadlodd Brown yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis yn y gystadleuaeth sglefrfyrddio yn 16 oed. Llwyddodd i ennill medal efydd unwaith eto, er gwaethaf datgymalu ei hysgwydd dwywaith yn ystod yr wythnos cyn y rownd derfynol. Roedd angen llawdriniaeth arni ar ôl y Gemau yn Los Angeles.[17]

Methodd â chymhwyso i gystadlu yn y gystadleuaeth syrffio 2024 o un lle (ond byddai hyn wedi digwydd yn Tahiti, 10,000 milltir i ffwrdd).[17]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Licata, Alexandra (10 Mehefin 2019). "Meet Sky Brown, the 10-year-old skateboarder on pace to shake up the 2020 Tokyo Olympics". Business Insider (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  2. "Skateboarder Sky Brown to become youngest British summer Olympian". The Guardian (yn Saesneg). 1 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
  3. "Tokyo 2020: Skateboarder Sky Brown set to become youngest British summer Olympian of all time". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
  4. "Tokyo Olympics: 13-year-old Sky Brown wins Olympic skateboarding bronze". BBC (yn Saesneg). 4 Awst 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
  5. "Sky Brown: The 10-year-old British skateboarder aiming to make history at Tokyo". BBC Sport (yn Saesneg). 14 Mawrth 2019. Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Sky Brown: Skateboarder, 10, chooses Great Britain Olympic team". CNN (yn Saesneg). 14 Mawrth 2019. Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  7. "世界が注目、マルチなスーパー小学生 Sylw'r byd i blant ysgol gynradd". Kyodo News (yn Japaneeg). 11 Medi 2019. Cyrchwyd 22 Mawrth 2020.
  8. 8.0 8.1 "小学生が東京五輪目指す Nod myfyriwr ysgol gynradd ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo". Mainichi Shimbun (yn Japaneeg). 4 Awst 2019. Cyrchwyd 22 Mawrth 2020.
  9. Reynolds, Tom (13 February 2020). "Sky Brown: Meet the 11-year-old girl set to become Britain's youngest summer Olympian". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  10. Williams, Rebecca (6 Ionawr 2020). "Skateboarder, 11, hopes to become Britain's youngest ever summer Olympian". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  11. McCombs, Dave; Katanuma, Marika (5 Mehefin 2019). "Can This 10-Year-Old Girl Save the Olympics?". Bloomberg News (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  12. Morse, Ben. "Skateboarder Sky Brown, 11, hospitalized after horrific fall". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-03.
  13. "Sky Brown: 12-year-old skateboarder picked for GB Olympic team". bbc.co.uk (yn Saesneg). 9 Mehefin 2021. Cyrchwyd 9 Mehefin 2021.
  14. "Sky Brown set to become Britain's youngest summer Olympian" (yn Saesneg). ESPN. 10 Mehefin 2021. Cyrchwyd 23 Mehefin 2021.
  15. "Hend Zaza, 11-year-old Syrian table tennis player, qualifies for Olympics". The Guardian (yn Saesneg). 5 Mawrth 2020. Cyrchwyd 21 Mawrth 2020.
  16. "What has happened on day 12 in Tokyo?". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-04.
  17. 17.0 17.1 "The story behind Sky Brown's miraculous Olympic bronze – hours after her shoulder 'popped out'". Independent.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-10.