Al Nakba
Enghraifft o'r canlynol | dispossession, Carthu ethnig |
---|---|
Dyddiad | 1948 |
Achos | Seioniaeth |
Lleoliad | Palesteina dan Fandad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r term Arabeg al Nakba neu al Naqba (Arabeg: النكبة), sy'n golygu "Y Catastroffi" neu "Y Drychineb", yn cael ei ddefnyddio gan y Palesteiniaid i gyfeirio at laddfa, symudiad drwy drais a ffoedigaeth y Palesteiniaid o Palesteina yn 1948, yn ystod Rhyfel Palesteina 1948 ac o ganlyniad i'r rhyfel hwnnw. Gyrrwyd hanner poblogaeth Arabaidd Palesteina (750,000 o bobl) o'u cartrefi a gwrthododd y wladwriaeth Israeli newydd ganiatâd iddynt ddychwelyd. Gwacawyd a dinistriwyd pentrefi cyfan. Meddiannwyd rhai o'r tai gan wladychwyr Iddewig. Codwyd gwladychfeydd Iddewig newydd a choedwigoedd ar safle'r pentrefi a ddiboblogwyd. Mae'r Palesteiniaid a ddadleolwyd a'u teuluoedd bellach yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza ac mewn gwledydd Arabaidd cyffiniol. Cyfeirir ati hefyd fel Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg: الهجرة الفلسطينية, al-Hijra al-Filasteeniya). Ceir Diwrnod Nakba i gofio'r digwyddiad.
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Map sy'n dangos lle mae UNRWA yn weithgar Archifwyd 2008-05-28 yn y Peiriant Wayback (cliciwch arno i'w ehangu)