Neidio i'r cynnwys

Labia

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Labia a ddiwygiwyd gan Inertia6084 (sgwrs | cyfraniadau) am 11:52, 21 Tachwedd 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Y gweflau lleiaf (labia minora) yn dangos eu pen allan o'r gweflau mwyaf (labia majora) wedi'i shafio

Gweflau ar ymyl gwain neu gont merch ydy labia. Gair lluosog ydyw; labiwm ydy'r unigol ond pur anaml y caiff y gair yma ei ddefnyddio. Mae'n dod o'r gair Lladin am wefus neu wefl. Mae'r labia yn rhan o'r fwlfa.

Maent i'w gweld o bopty i hollt Gwener ac maent wedi'u gwneud o feinwe a chroen. Dônt at ei gilydd jest o dan y cnwc Gwener (tu blaen y corff) gan orchuddio'r clitoris yn rhanol neu'n gyfan.

Mae'r rhan fwyaf o bobloedd y byd yn eu gorchuddio gyda dillad megis nicyrs, pais neu sgert. Er hyn, ceir rhai merched sy'n rhoi pindlws drwy'r croen.