Neidio i'r cynnwys

Gorllewin Berkshire

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Gorllewin Berkshire a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 10:41, 22 Ebrill 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Gorllewin Berkshire
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
PrifddinasNewbury Edit this on Wikidata
Poblogaeth158,527 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBerkshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd704.1693 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4009°N 1.3235°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000037 Edit this on Wikidata
GB-WBK Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of West Berkshire Council Edit this on Wikidata
Map

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Gorllewin Berkshire.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 704 km², gyda 158,257 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Hampshire i'r de, Wiltshire i'r gorllewin, Swydd Rydychen i'r gogledd a Bwrdeistref Reading a Bwrdeistref Wokingham i'r dwyrain.

Gorllewin Berkshire yn Berkshire

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1998 o'r hen ardal an-fetropolitan Ardal Newbury, a oedd wedi bod o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir yn ystod y flwyddyn honno, daeth pob un o'i chwe ardal an-fetropolitan cyfansoddol yn awdurdod unedol.

Lleolir pencadlys yr awdurdod yn Newbury. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Thatcham, Hungerford, Pangbourne a Lambourn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. City Population; adalwyd 12 Ebrill 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Berkshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato