Gwenafwy
Gwenafwy | |
---|---|
Ganwyd | 7 g Rheged |
Bu farw | Unknown |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 6 g |
Dydd gŵyl | 1 Gorffennaf |
Tad | Coel Hen |
Santes o'r 6g oedd Gwenafwy neu Gwenabwy. Fe'i cysylltir ag Ynys Môn.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am y santes hon. Roedd Gwenafwy yn un o ferched Caw neu Coel o Rheged, tad y seintiau Gildas, Allgo (sefydlydd Llanallgo ym Môn) ac Eugrad (sefydlydd Llaneugrad ym Môn). Roedd ganddi ddwy chwaer, hwythau hefyd yn santesau o Ynys Môn, sef Cywyllog a Peithien.[1] Rhoddwyd tir i'r teulu ar Ynys Môn gan Maelgwn Gwynedd ar ôl iddynt gorfod ffoi rhag y Pictiau ar yr amod y dylent canolbwyntio ar grefydd a pheidio datblygu gwladfa iddynt eu hunain.[2]
Ni ddylid ei chymysgu gyda: Gwen Teirbron, Gwen o Dalgarth Gwen o Gernyw a elwir weithiau Gwenap.[1]
Gwylmabsant: Y Sulgwyn neu 1 Gorffennaf[3]
Chwedl Culhwch ac Olwen
[golygu | golygu cod]Yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen, mae gan Gwenafwy fab o'r enw Gwydre mab Llwydew sy'n cael ei lofruddio gan ei ewythr Huail mab Caw. Dienyddwyd Huail am hynny (ceir Maen Huail yn Rhuthun).[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 , T.D. Breverton The Book of Welsh Saints (Glyndwr Publishing, 2000).
- ↑ Baring-Gould s. a Fisher J. gol.Bryce 1990 Lives of the British Saints, Llanerch
- ↑ The lives of the saints. With introd. and additional lives of English martyrs, Cornish, Scottish, and Welsh saints, and a full index to the entire work" ar 246.
- ↑ Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).