Neidio i'r cynnwys

Decebalus

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Decebalus a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 16:56, 18 Mawrth 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Decebalus
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Bu farw106 Edit this on Wikidata
o gwaediad Edit this on Wikidata
Bălcești Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDacia Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Dacia Edit this on Wikidata
TadScorilo Edit this on Wikidata

Roedd Decebalus, enw gwreiddiol Diurpaneus (bu farw 106), yn frenin Dacia o 87 hyd ei farwolaeth.

Wedi marwolaeth y brenin Burebista, ymrannodd Dacia yn nifer o wladwriaethau bychain. Llwyddodd Diurpaneus i'w hail-uno ac ail-drefnu'r fyddin, ac yn 85 ymosododd y Daciaid ar dalaith Rufeinig Moesia, i'r de o Afon Donaw. Yn 87, gyrrodd yr ymerawdwr Domitian fyddin dan Cornelius Fuscus, pennaeth Gard y Praetoriwm, i gosbi'r Daciaid. Gorchfygodd Diurpaneus hwy mewn brwydr ger Tapae (Bucova heddiw), a lladdwyd Fuscus. Newidiodd Diurpaneus ei enw i Decebalus, sy'n golygu "cryfder deg".

Yn ôl yr hanesydd Dio Cassius, roedd Decebalus yn gadfridog galluog. Yn 88, gyrrwyd byddin arall dan Tettius Iulianus yn ei erbyn, ond gorchfygwyd yntau, a bu raid i'r Rhufeiniaid brynu heddwch trwy roi swm mawr o arian i'r Daciaid.

Pan ddaeth Trajan yn ymerawdwr yn 98, dechreuodd ymgyrch yn erbyn Decebalus. Gorchfygwyd y Daciaid yn 101, ond cadwyd Decebalus yn frenin dan awdurdod Rhufain. Dair blynedd yn ddiweddarach, gwrthryfelodd, a dinistriodd y milwyr Rhufeinig yn Dacia. Gyrrwyd byddin arall, ac wedi gwarchae hir ar Sarmizegetusa a brwydr, gorchfygwyd Decebalus. Lladdodd ef ei hun yn hytrach na chael ei gymeryd yn garcharor.