Neidio i'r cynnwys

Cyrdistan (talaith Iranaidd)

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Cyrdistan (talaith Iranaidd) a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 15:40, 19 Chwefror 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Cyrdistan
MathTaleithiau Iran Edit this on Wikidata
PrifddinasSanandaj Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,603,011, 1,493,645, 1,440,156 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIran Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Arwynebedd29,137 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSulaymaniyah Governorate, West Azerbaijan Province, Talaith Hamadan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.7278°N 46.9669°E Edit this on Wikidata
IR-12 Edit this on Wikidata
Map
Canran y diwaith11.6 canran Edit this on Wikidata

Un o 30 talaith Iran sy'n gorwedd yn nhiriogaeth draddodiadol Cyrdistan, gwlad y Cyrdiaid, yw Talaith Cyrdistan neu Kordestan (Perseg: استان کردستان, Ostâne Kordestân; Cyrdeg: پارێزگه ی کوردستان, Parêzgeha Kurdistanê). Mae'n rhan o'r Cyrdistan Iranaidd hefyd, sy'n diriogaeth fwy sylweddol. Mae gan dalaith Cyrdistan arwynebedd o 28,817 km², sy'n cyftateb i tua wythfed ran yn unig o'r Cyrdistan Iranaidd ei hun. Fe'i lleolir yng ngorllewin Iran ac mae'n ffinio ar Irac i'r gorllewin, talaith Gorllewin Azerbaijan i'r gogledd, Zanjan i'r gogledd-ddwyrain a Kermanshah i'r de. Prifddinas y dalaith yw Sanandaj (Cyrdeg: Sinne). Fe'i rhennir yn siroedd a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd neu drefi, sef Marivan, Baneh, Saqqez, Sarvabaad, Qorveh, Bijar, Kamyaran a Diwandarreh.

Lleoliad talaith Cyrdistan yn Iran

Daearyddiaeth a demograffeg

[golygu | golygu cod]

Mae'n dalaith werdd gyda nifer o goedwigoedd a mynyddoedd. Y copaon uchaf yw mynyddoedd Charkhaln (3,330 m), Chehelcheshmeh (3,173 m), Hossein Bak (3,091 m) a Masjede Mirza (3,059 m). Y llyn mwyaf yw Llyn Zarivar.

Yn 1996 roedd gan y dalaith boblogaeth o 1,346,383 gyda 52.42% ohonynt yn byw mewn trefi a 47.58% yng nghefn gwlad. Cyrdiaid yw mwyafrif helaeth y boblogaeth. Maent yn siarad Cyrdeg Sorani. Enw hanesyddol yr ardal yw Ardalan.

Prif drefi a dinasoedd

[golygu | golygu cod]
Taleithiau Iran Baner Iran
Alborz | Ardabil | Bushehr | Chaharmahal a Bakhtiari | De Khorasan | Dwyrain Azarbaijan | Fārs | Gīlān | Golestān | Gogledd Khorasan | Gorllewin Azarbaijan | Hamadān | Hormozgān | Īlām | Isfahan | Kermān | Kermanshah | Khūzestān | Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad | Kordestan | Lorestān | Markazi | Māzandarān | Qazvin | Qom | Razavi Khorasan | Sistan a Baluchestan | Semnān | Tehran | Yazd | Zanjan