Gwyddoniaeth
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, Wissenschaft |
---|---|
Math | system gwybodaeth |
Y gwrthwyneb | non-science, ffugwyddoniaeth, antiscience |
Rhan o | Gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg |
Yn cynnwys | golwg fyd-eang wyddonol, gwyddoniaeth naturiol, gwyddorau cymdeithas, gwyddoniaeth ffurfiol, experimental science, gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol, scientific knowledge, ymchwil, llenyddiaeth am wyddoniaeth |
Cynnyrch | gwybodaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae 'Gwyddonydd' yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am y cylchgrawn Cymraeg gweler Y Gwyddonydd.
System o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd ffisegol, sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio yw gwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a methodolegol rheysmegol ac at y corff o wybodaeth mae pobl wedi'u casglu trwy ymchwil o'r fath. Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.
Mynna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil wyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol na ellir ei brofi. Hynny yw, nid lle gwyddoniaeth ydy gofyn 'Oes na Dduw?'
Dosberthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp: gwyddorau naturiol, a gwyddorau cymdeithasol. Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg (ac yn rhan o) Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis rhif, maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth bur, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.
Dros y canrifoedd cafwyd llawer o Gymry a fu'n flaenllaw iawn y myd Gwyddoniaeth gan gynnwys dau enillydd y wobr Nobel: Brian David Josephson (g. 1940) a Bertrand Russell, y biolegydd Alfred Russel Wallace a'r economegydd Clive W. J. Granger (g. 1934). Robert Recorde (1510–1558) o Ddinbych-y-pysgod a greodd symbol yr hafaliad (=) ac William Jones (1675–1749) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (/paɪ/) i gynrychioli cymhareb y cylchedd i'r diamedr yn 1796.
Gwyddoniaeth naturiol
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwyddoniaeth naturiol
Ystyr draddodiadol Gwyddoniaeth Naturiol yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd. Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddoniaethau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a'r gwyddoniaethau cymdeithasol ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall.
Gwyddoniaeth bur
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwyddoniaeth bur
Cangen o wyddoniaeth sy'n disgrifio'r gwrthrychau a'r grymoedd mwyaf gwaelodol a sylfaenol ynghyd â'r berthynas rhyngddynt a'r deddfau sy'n eu llywodraethu fel y gellir dweud fod pob ffenomen naturiol yn deillio ohonynt yw gwyddoniaeth bur neu wyddoniaeth waelodol (Saesneg: fundamental science).
Gwyddoniaeth gymhwysol
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwyddoniaeth gymhwysol
Defnyddio gwybodaeth wyddonol a'i chymhwyso i broblemau ymarferol yw gwyddoniaeth gymhwysol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru
- Gwyddorau cymdeithas
- Gwyddorau daear
- Gwyddor iechyd
- System Ryngwladol o Unedau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bywydeg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth