Neidio i'r cynnwys

Caer Bentir y Penrhyn Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd dros ginio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:26, 3 Ebrill 2024

Caer Bentir Trwyn Ddu
Mathcaer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHaroldston West Edit this on Wikidata
SirYr Hafanau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.79502°N 5.105179°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM8597015270 Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOes yr Haearn Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE265 Edit this on Wikidata

Bryngaer-bentir o Oes yr Haearn yw Bryngaer y Penrhyn Du (Saesneg: Black Point Rath), Sir Benfro, sy'n rhanol wedi'i amddiffyn yn naturiol gan glogwyni serth i'r Gorllewin a'r De. Rhwng 1889 a 1970 nid oedd llawer o erydu ond ers y 1970au, mae'r safle'n fregus iawn a llawer o'r gaer wedi diflannu i'r môr. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif NPRN unigryw: 305331 achyfeirnod grid OS: SM8597015270.[1]

Mae map OS, 1889 yn dangos fod y gaer wedi'i hamddiffyn gan glawdd crwm tua 120m o hyd gyda ffos allanol i'r gogledd a'r dwyrain. Roedd y fynedfa rhwng terfyny banc yn y pen deheuol ac ymyl y clogwyni. Roedd yn mesur tua 120m Gorll-Dwyrain a 35m Gogl-De; mae'n debygol hefyd, erbyn 1889 fod swm sylweddol eisoes wedi'i golli i'r môr.[2]

Erbyn y 2000au roedd y difrod yn gwaethgu o ddydd i ddydd. Mae'n debyg bod y gaer heddiw rhwng 5m a 10m yn is nag yr oedd 100 mlynedd yn ôl, gyda chraciau enfawr wedi agor dros ei harwyneb sy'n gwneud ymweliad a'r safle'n beryglus iawn. Yn eironig, oherwydd y'r hollti a'r suddo hwn, mae tu fewn y cloddiau i'w gweld, a daeth sut y crewyd y clawdd amddiffynol i'r amlwg. Saif y clawdd i dros 3m o uchder yn fewnol a thros 5m uwchben gwaelod y ffos.

Cyd-destun

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd y bryngaerau pentir hyn, a hynny llawer cyn y goresgyniad Rhufeinig; cafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Dolenni allanol

Gweler hefyd

Cyfeiriadau