Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac
Ymchwiliad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'r rhesymau pam yr aeth Prydain i ryfel yn Irac yw Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac, a gyhoeddwyd ar 15 Mehefin 2009 gan y Prif Weinidog Gordon Brown. Cadeirydd yr ymchwiliad yw Syr John Chilcot, a gelwir yr ymchwiliad yn answyddogol ar ei ôl.[1][2] Roedd cyhoeddiad gwreiddiol Brown yn cynnwys y cymal mai ymchwiliad preifat ydoedd, ond buan iawn y newidiwyd hynny yn dilyn beirniadaeth hallt gan wleidyddion a'r cyhoedd ar y cyfryngau.[3][4][5]
Enghraifft o'r canlynol | public inquiry |
---|---|
Dechreuwyd | 24 Tachwedd 2009 |
Daeth i ben | 6 Gorffennaf 2016 |
Yn cynnwys | John Chilcot, Lawrence Freedman, Martin Gilbert, Roderic M. J. Lyne, Usha Prashar, Baroness Prashar, Rosalyn Higgins, Roger Wheeler |
Gwefan | http://www.iraqinquiry.org.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng canol 2001 a Gorffennaf 2009.
Cefnogir yr ymchwiliad gan Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig er mwyn ymchwilio i'r hyn a arweiniodd i'r gwarthdaro, yr ymosodiad militaraidd ei hun a'r hyn a ddarganfuwyd ar ôl y brwydro, er mwyn canfod y modd y cafodd penderfyniadau (gan y gwleidyddion) eu gwneud. Yn ogystal â hyn, un o brif amcanion Pwyllgor yr Ymchwiliad yw canfod a nodi gwersi pwysig, er mwyn sicrhau trefn ac ymateb mwy effeithiol yn y dyfodol i wrthdaro tebyg, er budd "y wlad".[6] Dechreuodd sesiynau agored yr ymchwiliad ar 24 Tachwedd 2009 a daeth i ben ar 2 Chwefror 2011.
Cynhaliwyd gwrandawiad olaf yr ymchwiliad yn 2011, ond yn Chwefror 2015 (ddeufis cyn yr Etholiad Cyffredinol) nid oedd yr adroddiad wedi gweld golau dydd. Yn ôl rhai, roedd y penderfyniad i beidio a chyhoeddi cynnwys yr Adroddiad yn un gwleidyddol, gan ei fod, o bosib, yn pwyntio bys at Tony Blair, y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr.[7] Yn ôl Elfyn Llwyd AS, ar lawr Tŷ'r Cyffredin, "roedd yr oedi yn ffars ac yn sarhad i ddemocratiaeth".[8] Disgrifiodd Caroline Lucas o'r Blaid Werdd yr oedi fel penderfyniad "cywilyddus".[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ My alternative to another round of Iraq whitewashing, The Guardian, 31 Gorffennaf 2009
- ↑ Investigate UK abuses in Iraq The Guardian, 14 Awst 2009
- ↑ Iraq war inquiry to be in private Newyddion y BBC, 15 Mehefin 2009
- ↑ UK PM announces Iraq war inquiry Al Jazeera, 15 Mehefin 2009
- ↑ Siddique, Haroon (22 Mehefin 2009). "Public Iraq war inquiry 'essential', says chairman". London: The Guardian. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2009.
- ↑ "The key points of the Iraq war inquiry explained". BBC News. 5 March 2010.
- ↑ Papur newydd The Independent; adalwyd 5 Chwefror 2015
- ↑ Sianel 4; adalwyd 5 Chwefror 2015
- ↑ [https://web.archive.org/web/20150126171908/http://greenparty.org.uk/news/2015/01/21/caroline-lucas-mp-statement-on-chilcot-delay/ Archifwyd 2015-01-26 yn y Peiriant Wayback Gwefan y Blaid Werdd]; “The catastrophic effects of the Iraq war are being felt to this day. That's why, for all its delays, this remains an essential report – and we must continue to press for it to be what it was always meant to be: a full and transparent public record of the events that led to the illegal invasion of Iraq, and the role of those involved.” ; adalwyd 5 Chwefror 2016