Tomen y Rhodwydd

castell mwnt a beili rhwng Rhuthun a Wrecsam

Castell mwnt a beili a godwyd gan Owain Gwynedd i amddiffyn gororau Gwynedd Is Conwy yw Tomen y Rhodwydd. Saif mewn ardal o gaeau a bryniau isel i'r de o Landegla yn Iâl (de-ddwyrain Sir Ddinbych heddiw).

Tomen y Rhodwydd
Mathcastell mwnt a beili, cestyll y Tywysogion Cymreig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1149 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0554°N 3.2295°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1769651606 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE018 Edit this on Wikidata

Hwn, mae'n ymddangos, oedd y 'Castell yn Iâl' a godwyd gan Owain Gwynedd yn 1149, yn ôl Brut y Tywysogion, pan gipiodd gantref Iâl oddi ar frenhinoedd Powys. Safodd y castell cyntaf hwnnw hyd 1157 pan gafodd ei losgi'n ulw gan Iorwerth Goch ap Maredudd (Iorwerth Goch) o Bowys yn sgîl cyrch gan Harri II o Loegr ar Wynedd. Ceir cofnod arall mewn dogfen Seisnig o 1212 sy'n cyfeirio at drwsio 'castell Iâl', ond mae'n debyg mai castell arall yn yr un ardal a olygir, sef Tomen y Faerdre, 3 milltir i lawr y dyffryn ger Llanarmon-yn-Iâl.

Awyrlun o'r enghraifft orau o gastell mwnt a beili drwy Gymru: Castell y Rhodwydd

Mae'r castell yn sefyll ar dir preifat ond gellir ei weld o'r ffordd A525 rhwng Wrecsam a Rhiwabon, tua milltir a hanner i'r de-orllewin o Landegla.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Cymru (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)