Taleithiau a thiriogaethau Canada
Mae Canada yn ffederasiwn o ddeg talaith, sydd, ynghyd â thair tiriogaeth, yn ffurfio ail wlad fwya'r byd o ran arwynebedd. Y prif wahaniaeth rhwng talaith a thiriogaeth yng Nghanada yw bod pwerau talaith yn deillio'n uniongyrchol o'r Ddeddf Cyfansoddiad, 1867, sydd yn rhoi iddynt hwythau fwy o hawliau nag sydd gan diriogaeth, sydd â phwerau wedi'u dirprwyo gan y llywodraeth ffederal.
Enghraifft o'r canlynol | enw un tiriogaeth mewn gwlad unigol, collective entity |
---|---|
Math | endid tiriogaethol gwleidyddol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, census geographic unit of Canada, endid tiriogaethol gweinyddol Canada |
Yn cynnwys | tiriogaeth Canada, Talaith Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Canada Uchaf, Canada Isaf, New Brunswick a Nova Scotia oedd pedair talaith gyntaf Canada pan luniodd gwladfeydd Gogledd America Brydeinig ffederasiwn ar 1 Gorffennaf 1867. Ail-enwyd Canada Uchaf yn Ontario a Chanada Isaf yn Quebec. Dros y chwe blynedd dilynol, ymunodd Manitoba, British Columbia ac Ynys y Tywysog Edward fel taleithiau.
Roedd Cwmni Bae Hudson (Hudson's Bay Company) yn rheoli rhannau sylweddol o orllewin Canada hyd at 1870, cyn i'r tir ddod i feddiant Llywodraeth Canada, gan ffurfio rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar 1 Medi 1905, ffurfiwyd Alberta a Saskatchewan o'r rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin a orweddai i'r de o'r paralel 60°.
Mewn refferendwm yn 1948, gyda mwyafrif bach, pleidleisiodd trigolion Newfoundland a Labrador dros ymuno â'r conffederasiwn. O ganlyniad, ar 13 Mawrth 1949, ymunodd Newfoundland a Labrador fel degfed talaith Canada.
Taleithiau Canada
golyguTalaith | Cod Zip/ cod ISO |
Talfyriad | Prifddinas | Dyddiad ymuno â Chydffereasiwn Canada | Poblogaeth (2004) |
Arwynebedd (km²) | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tir | Dŵr | Cyfanswm | ||||||
Ontario | ON | Ont. | Toronto | 1 Gorffennaf 1867 | 12 439 755 | 917 741 | 158 654 | 1 076 395 |
Quebec | QC | Qué., PQ, P.Q. | Québec | 7 560 592 | 1 356 128 | 185 928 | 1 542 056 | |
Nova Scotia | NS | N.S. | Halifax | 938 134 | 53 338 | 1946 | 55 284 | |
New Brunswick | NB | N.B. | Fredericton | 751 400 | 71 450 | 1458 | 72 908 | |
Manitoba | MB | Man. | Winnipeg | 15 Gorffennaf 1870 | 1 170 300 | 553 556 | 94 241 | 647 797 |
British Columbia | BC | B.C. | Victoria | 20 Gorffennaf 1871 | 4 168 123 | 925 186 | 19 549 | 944 735 |
Prince Edward Island | PE | PEI, P.E.I. | Charlottetown | 1 Gorffennaf 1873 | 137 900 | 5660 | – | 5660 |
Saskatchewan | SK | Sask. | Regina | 1 Medi 1905 | 996 194 | 591 670 | 59 366 | 651 036 |
Alberta | AB | Alta. | Edmonton | 3 183 312 | 642 317 | 19 531 | 661 848 | |
Newfoundland a Labrador | NL | Nfld., NF, LB | St. John’s | 31 Mawrth 1949 | 517 000 | 373 872 | 31 340 | 405 212 |
Tiriogaethau Canada
golyguTiriogaeth | Cod Zip/ cod ISO |
Talfyriad | Prifddinas | Dyddiad ymuno â Chydffederasiwn Canada | Poblogaeth (2004) |
Tiriogaeth (km²) | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tir | Dŵr | Cyfanswm | ||||||
Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | NT | N.W.T., NWT | Yellowknife | 15 Gorffennaf 1870 | 42 800 | 1 183 085 | 163 021 | 1 346 106 |
Yukon | YT | Y.T., YK | Whitehorse | 13 Mehefin 1898 | 31 200 | 474 391 | 8052 | 482 443 |
Nunavut | NU | Iqaluit | 1 Ebrill 1999 | 28 300 | 1 936 113 | 157 077 | 2 093 190 |
Cyfeiriadau
golyguTaleithiau a thiriogaethau Canada | |
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec | |
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador | |
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon |