Noa
Cymeriad Beiblaidd, mab Lamech o hiliogaeth Seth, y ceir ei hanes yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, y Torah a'r Coran yw Noa. Mae'n ffigwr pwysig yng nghrefyddau Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam a gysylltir â chwedl Y Dilyw ac Arch Noa. Bu ganddo dri mab, sef Sem, Ham a Jaffeth (tad Gomer).
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol yn y Beibl |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn Llyfr Genesis olrheinir ei enw i air Hebraeg yn golygu "cysur", a roddir ef iddo gan ei dad, Lameth, i arwyddo y byddai yn fendith ac yn gysur i drigolion y byd yn wyneb y llafur a osodwyd arnynt am eu pechodau gan felltith Duw ar y ddaear.
Ceir sawl chwedl am Noa yn y Beibl, y Torah a'r Coran. Yn Genesis dywedir mai ef oedd y cyntaf i ddarganfod y winwydden a chael gwin ohoni.
Ond y brif chwedl a gysylltir ag ef yw chwedl Y Dilyw (Gen. 6-9). Credir fod y rhan yma o'i hanes yn seiliedig ar y cymeriad mytholegol Ut-napishtim, arwr hanes y Dilyw ym mytholeg Babilonia. Gorchymynodd Duw i Noa adeiladu arch i achub ef a'i deulu (ei thri mab a'u gwragedd) a deuryw anifeiliaid y byd rhag y Dilyw. Pan ddaeth yr arch i orffwys ar dir sych eto - ar Ararat - adeiladodd Noa allor ac offrymodd i Dduw. Gwnaeth Duw gyfamod ag ef, a gynrychiolir gan yr enfys (Gen 9:9-17).
Yn y traddodiad Iddewig a Christnogol mae Noa, Daniel a Job yn cynrychioli tri phatrwm cyfiawnder (Esec 14).
Yn Islam cyfrifir Noa (Nuh) yn un o'r proffwydi mawr yn yr olyniaeth sy'n cychwyn gydag Adda ac yn gorffen gyda Mohamed. Gwrthodir y chwedl am Noa yn darganfod cyfrinach gwin ac yn meddwi arno gan Fwslemiaid am nad ydy i'w cael yn y Coran.
Cyfeiriadau
golygu- Thomas Rees ac eraill (gol.), Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol II, d.g. Noa.