Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Huron (Saesneg: Lake Huron) neu Lyn Hwron. Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y trydydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Huron a Llyn Michigan yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn.

Llyn Huron
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLake Michigan–Huron, Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA Edit this on Wikidata
SirOntario, Michigan Edit this on Wikidata
GwladCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd59,600 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr176 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHuron County, Alpena County, Alcona County Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.592584°N 82.756293°W Edit this on Wikidata
Dalgylch193,473 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd332 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Llyn Huron

Enwyd y llyn gan y fforwyr Ffrengig cynnar ar ôl y bobl frodorol, yr Huron. Saif Llyn Huron ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar Michigan yn yr Unol Daleithiau, yn y dwyrain at Ontario, Canada. Mae ei arwynebedd yn 59,596 km2, ac mae'n cynnwys 3,540 km3 o ddŵr.

Llifa nifer o afonydd i'r llyn, yn arbennig Afon St Mary sy'n llifo o Lyn Superior. Mae Afon St Clair yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Manitoulin, yr ynys fwyaf yn y byd mewn llyn dŵr croyw.

Lleoliad Llyn Huron