Istanbul

tref fwyaf Twrci

Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Istanbwl)[1] yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Atatürk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enw arni oedd Caergystennin (Lladin: Constantinopolis, Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Istanbul
Mathbwrdeistref fetropolitan Twrci, cyn-brifddinas, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas â phorthladd, dinas fawr, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,462,452 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 29 Mai 1453 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEkrem İmamoğlu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirTalaith Istanbul Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd5,343 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr100 metr Edit this on Wikidata
GerllawBosphorus, Môr Marmara, Y Môr Du, Hafan Euraid Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.01°N 28.9603°E Edit this on Wikidata
Cod post34000–34990 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Istanbul Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEkrem İmamoğlu Edit this on Wikidata
Map
Tu mewn Mosg Aghia Sophia yn Istanbul

Heddiw, mae tua 15,462,452 (2020)[2] o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgau'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae hefyd yn brif ddinas Talaith Istanbul.

Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (3951453) a'r Ymerodraeth yr Otomaniaid (14531923). Dewisiwyd y ddinas yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985. Yn 2018, daeth dros 13.4 miliwn o ymwelwyr tramor i Istanbul gan wneud y ddinas yn bumed gyrchfan twristiaid mwyaf poblogaidd y byd.[3]

Geirdarddiad

golygu

Dywedir bod y gair 'Istanbul' yn deillio o'r ymadrodd Groeg Canoloesol "εἰς τὴν Πόλιν", sy'n golygu "i'r ddinas".[4] Adlewyrchwyd pwysigrwydd Caergystennin yn y byd Otomanaidd hefyd gan ei lysenw "Der Saadet" sy'n golygu'r "y porth i Ffyniant" yn eu hiaith nhw.[5].

Mae arteffactau Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig), a ddatgelwyd gan archaeolegwyr ar ddechrau'r 21g, yn dangos bod penrhyn hanesyddol Istanbul wedi'i wladychu mor bell yn ôl â'r 6ed mileniwm CC.[6] Roedd hyn yn bwysig yn lledaeniad y Chwyldro Neolithig o'r Dwyrain Agos i Ewrop, am bron i fileniwm cyn cael ei boddi gan lefelau dŵr yn codi.[7][8][9] Daw'r anheddiad dynol cyntaf ar yr ochr Asiaidd, sef y 'Twmpath Fikirtepe', o'r cyfnod Oes Efydd, gydag arteffactau'n dyddio o 5500 i 3500 CC. Ar yr ochr Ewropeaidd, ger pwynt y penrhyn (Sarayburnu), roedd anheddiad Thraciaaidd yn gynnar yn y mileniwm 1af CC.[10][11]

Mae hanes y ddinas, fel y cyfryw, yn cychwyn tua 660 BCE, pan daeth ymsefydlwyr Groegaidd o Megara gan sefydlu Byzantium ar ochr Ewropeaidd y Bosphorus.[12][13] Adeiladodd yr ymsefydlwyr acropolis ger yr Corn Aur ar safle aneddiadau Thraciaidd cynnar, gan danio economi'r ddinas eginol. Profodd y ddinas gyfnod o gael ei rheoli gan Bersia ar droad y 5g CC, ond fe'i hailgipiwyd hi gan y Groegiaid yn ystod y Rhyfeloedd Greco-Persia.[14][15]

Yna parhaodd Byzantium fel rhan o Gynghrair Athenia a'i olynydd, Ail Gynghrair Athenia, cyn ennill annibyniaeth yn 355 CC.[16] Bu'n gysylltiedig â'r Rhufeiniaid am gyfnod hir, a daeth Byzantium yn swyddogol yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn 73 OC.[17]

Costiodd penderfyniad Byzantium i ochri gyda’r swyddog milwrol Rhufeinig Pescennius Niger yn erbyn yr Ymerawdwr Septimius Severus yn ddrud; erbyn i'r ddinas ildio ar ddiwedd 195 OC, roedd dwy flynedd o warchae wedi gadael y ddinas wedi ei anrheithio.[18] Bum mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Severus ailadeiladu Byzantium, ac adenillodd y ddinas - ac, yn ôl rhai cyfrifon, rhagorodd - ar ei gwychder blaenorol.[19]

Hinsawdd

golygu

Mae gan Istanbul hinsawdd is-drofannol laith (Dosbarthiad hinsawdd Köppen: Cfa), gyda 808 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.[20][21][22]

Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26–28 °C a thymheredd isaf o 16–19 °C.[22] Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 32 °C am tua 5 diwrnod bob haf.[22] Ond nid haf yw'r graddau o difrifol a hir y gorllewin a'r de Twrci.

Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8–10 °C a thymheredd isaf o 3–5 °C, ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r −5 °C am rai dyddiau.[22] Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 15 °C yn ystod y gaeaf.[22] Eira a rhew yn gyffredin yn y gaeaf. Ar gyfartaledd ceir yno 19 o ddiwrnodau o eira yn flynyddol, ac ar gyfartaledd ceir yno 21 o ddiwrnodau o rhew yn flynyddol.[22]

Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y gwanwyn a'r hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[22]

Mis Ion Chwe Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tach Rhag Cyfartaledd Blwyddyn
Uchafbwynt cyfartalog °C 8.5 9.0 10.8 15.4 20.0 24.5 26.5 26.7 23.6 19.1 14.7 10.8 17.47
Cyfartaledd °C 5.6 5.7 7.0 11.1 15.7 20.4 22.8 23.0 19.7 15.6 11.4 8.0 13.83
Isafbwynt cyfartalog °C 3.2 3.1 4.2 7.7 12.1 16.5 19.5 20.0 16.8 13.0 8.9 5.5 10.88
Dyodiad mm 105.3 77.3 71.8 44.9 34.1 34.0 31.6 39.8 57.9 87.7 101.3 122.6 808.3 (Cyfanswm dyodiad)
Ffynonellau:Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg.


Adeiladau a chofadeiladau

golygu

Pobl o Istanbul

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [Istanbul].
  2. "Bunu da gördük: İstanbul'un nüfusu azaldı". Cyrchwyd 23 Chwefror 2022.
  3. "Top city destinations by overnight visitors". Statista (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 December 2020.
  4. Necdet Sakaoğlu (1993/94a): "İstanbul'un adları" ["The names of Istanbul"]. In: Dünden bugüne İstanbul ansiklopedisi, ed. Türkiye Kültür Bakanlığı, Istanbul.
  5. Grosvenor, Edwin Augustus (1895). Constantinople. Vol. 1: Roberts Brothers. t. 69. Cyrchwyd 15 Mawrth 2021.CS1 maint: location (link)
  6. Rainsford, Sarah (10 Ionawr 2009). "Istanbul's ancient past unearthed". BBC. Cyrchwyd 21 Ebrill 2010.
  7. Algan, O.; Yalçın, M.N.K.; Özdoğan, M.; Yılmaz, Y.C.; Sarı, E.; Kırcı-Elmas, E.; Yılmaz, İ.; Bulkan, Ö. et al. (2011). "Holocene coastal change in the ancient harbor of Yenikapı–İstanbul and its impact on cultural history". Quaternary Research 76 (1): 30. Bibcode 2011QuRes..76...30A. doi:10.1016/j.yqres.2011.04.002.
  8. BBC: "Istanbul's ancient past unearthed" Published on 10 Ionawr 2007. Retrieved on 3 Mawrth 2010.
  9. "Bu keşif tarihi değiştirir". hurriyet.com.tr.
  10. "Cultural Details of Istanbul". Republic of Turkey, Minister of Culture and Tourism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Medi 2007. Cyrchwyd 2 Hydref 2007.
  11. Janin, Raymond (1964). Constantinople byzantine. Paris: Institut Français d'Études Byzantines. tt. 10ff.
  12. Bloom & Blair 2009, t. 1
  13. Herodotus Histories 4.144, a gyfieithwyd yn De Sélincourt 2003, t. 288
  14. Isaac 1986, t. 199
  15. De Souza 2003, t. 88
  16. Freely 1996, t. 20
  17. Freely 1996, t. 22
  18. Grant 1996, tt. 8–10
  19. Limberis 1994, tt. 11–12
  20. World Map of the Köppen-Geiger climate classification University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31
  21. Climatetemps – Istanbul
  22. 22.0 22.1 22.2 22.3 22.4 22.5 22.6 Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg. Adalwyd 2008-09-01