Rhyddhau dau gafodd eu harestio ar ôl tân Prestatyn

Prestatyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhyddhau dau ddyn a gafodd eu harestio yn dilyn y tân ym Mhrestatyn dydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi rhyddhau dau ddyn a gafodd eu harestio ar ôl i ddyn farw mewn tân ym Mhrestatyn ddydd Llun.

Bu farw dyn mewn tân a ddigwyddodd uwchben siop ar waelod y Stryd Fawr yn yr oriau mân ar 12 Awst.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn hwyrach y diwrnod hwnnw ond maen nhw nawr wedi cael eu rhyddhau, gyda'r digwyddiad bellach ddim yn cael ei ystyried gan yr heddlu fel un amheus.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r mater bellach yn nwylo'r crwner," meddai'r Prif Uwcharolygydd Simon Williams

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Simon Williams: "Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) i ganfod achos y tân.

“Fodd bynnag, mae dau ddyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu dileu o’n hymchwiliadau a’u rhyddhau heb gyhuddiad.

“Yn dilyn archwiliad post mortem ac ymholiadau teledu cylch cyfyng pellach, nid yw’r digwyddiad hwn yn cael ei drin fel un amheus ac nid ydym yn ceisio siarad ag unrhyw un arall mewn cysylltiad ag ef.

"Mae'r mater bellach yn nwylo'r crwner ac fe fydd cwest yn cael ei agor maes o law. Mae ein meddyliau gyda theulu'r ymadawedig ar yr adeg anodd hon."

Pynciau cysylltiedig