'Gwersi pwysig i'w cofio' o derfysgoedd 1919

  • Cyhoeddwyd

Mae sôn bod gan hanes dueddiad i ailadrodd ei hun, ac yn ôl hanesydd cymunedol mae hynny i'w weld yn y terfysgoedd diweddar sydd wedi ysgwyd ardaloedd o Loegr.

Yn ôl Jamie Baker, hanesydd cymunedol sy'n gweithio yng Nghaerdydd, mae'r helyntion diweddar yn atsain o ddigwyddiadau yng Nghymru ar ôl y Rhyfel Mawr. Ac yn ei farn ef, mae'n bwysicach nag erioed bod gwersi'n cael eu dysgu am yr hanes hwnnw mewn ysgolion.

Ffynhonnell y llun, Archifau Morgannwg

Dros ganrif yn ôl roedd Caerdydd, y Barri a Chasnewydd yn dyst i'r terfysgoedd cyntaf o'u bath yng ngwledydd Prydain oedd yn ymwneud â hil a mewnfudo – gan adael "o leiaf tri yn farw".

"Mae'r terfysgoedd yn 1919 yn berthnasol i'r hyn sydd newydd ddigwydd, mae yna gymariaethau i'w gwneud," dywedodd Jamie Baker wrth Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Jamie Baker
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Baker

Yn y ddau gyfnod, meddai, mae ansicrwydd a diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion a gwleidyddiaeth i'w gweld.

"Yn 1919 milwyr yn dychwelyd o'r rhyfel i addewid gan y Llywodraeth o swyddi a chartrefi, a theimlad eu bod wedi eu twyllo."

Wedi i'r Prif Weinidog Keir Starmer rybuddio am effaith y cyfryngau cymdeithasol ar y terfysgoedd diweddar, yn ôl Jamie Baker roedd gan newyddion ffug hefyd ddylanwad dros ganrif yn ôl.

"Heddiw, fel bryd hynny roedd gwybodaeth gamarweiniol yn lledaenu, a phryder am argyfwng costau byw yn ganolog i'r hyn ddigwyddodd.

"Doedd dim cyfryngau cymdeithasol, ond roedd dylanwad papurau newydd yn enfawr, ac roedd pennawd ar ôl pennawd yn rhoi'r bai ar fewnfudwyr."

Ffynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Ardal dociau Caerdydd lle bu terfysg yn dilyn y Rhyfel Mawr

Yn ogystal â Chymru bu helyntion ym mhorthladdoedd Lerpwl a Glasgow.

Erbyn 1919, o ganlyniad i dwf y dociau yn bennaf, Caerdydd oedd ag un o'r canrannau uchaf o bobl ddu y tu allan i Lundain, a oedd wedi ymgartrefu yn ardal y dociau.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Ond yn dilyn y rhyfel roedd diweithdra yn uchel, ac yn gwaethygu wrth i filoedd o forwyr a milwyr, gan gynnwys rhai o wledydd yr ymerodraeth, ddychwelyd.

Ym mis Mehefin 1919, bu pedwar diwrnod o derfysg yng Nghaerdydd, gyda'r South Wales Echo a'r Western Mail yn sôn am "olygfeydd gwyllt" a "thorfeydd yn chwilio am bobl ddu".

Tair marwolaeth

Cafodd tri o bobl eu lladd a channoedd eu hanafu.

Bu farw John Donovan, 33 oed, a Mohammed Abdullah, 21 oed, yng Nghaerdydd, tra cafodd Frederick Henry Longman, cyn-filwr, ei drywanu i farwolaeth yn y Barri.

Bu farw Mr Abdullah, oedd yn llongwr, yn yr ysbyty o anafiadau difrifol i'w ben ar ôl ymosodiad arno yn ei lety yn ardal Trebiwt, Caerdydd. Cafodd Mr Donovan, cyn-filwr a gweithiwr rheilffordd ei saethu yn ei galon a'i ysgyfaint yng nghanol Caerdydd.

'Gwersi pwysig i'w cofio'

Mae honiad hefyd fod pedwerydd dyn wedi ei ladd, sef Harold Smart, 20 oed, yn dilyn ymosodiad â chyllell. Ond mae anghytuno a oedd y digwyddiad yma yn rhan o'r terfysg neu beidio.

"Mae yna wersi pwysig i'w cofio; y papurau newydd yn rhoi'r bai ar fewnfudwyr, a Llywodraeth y pryd yn hapus i ddilyn hynny, yn hytrach na chyfaddef i fethiannau economaidd," medd Mr Baker sydd â chyfres o bodlediadau, dolen allanol ar derfysgoedd 1919 ar safle Casgliad y Werin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Archifau Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Mapiau a lluniau o le digwyddodd y terfysgoedd

"Oherwydd yr helyntion diweddar, fe aethom ni yn ôl i astudio papurau newydd y pryd ac i wybod cefndir y rhai a fu'n rhan o'r terfysg yng Nghaerdydd.

"O'r 17 gafodd eu harestio doedd dim un yn gyn-filwr nac yn gyn-forwr. Ond yn ddiddorol roedd gan bob un record droseddol, unai o ddifrodi, dwyn neu drais.

"Pobl oedd â mwy o ddiddordeb mewn creu anrhefn cyn mynd ati i ladrata ac i ddwyn."

'Mae Cymru yn wahanol'

Hyd yn hyn mae strydoedd Cymru wedi osgoi'r anhrefn a welwyd mewn rhannau eraill o wledydd Prydain yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae Mr Baker yn meddwl bod rheswm am hynny: "Mae Cymru yn wahanol, mae pobl ddu ac ethnig yma yn eu cyfrif eu hunain yn Gymry, yn fwy felly na mae pobl ddu ac ethnig yn Lloegr yn gweld eu hunain yn Saeson. Mae hynny'n sicr yn wir am y rhai sy'n hŷn na 40, sy'n ystyried eu hunain o bosib fel Prydeinwyr ond nid fel Saeson.

"Oedd, mi roedd cyfnod 1919 yn gyfnod anodd a hyll i bobl ddu yng Nghymru, ond dydi hynny heb gael ei ailadrodd, ac mae'r diwylliant sy'n bodoli yng Nghymru yn rhan o'r rheswm am hynny."

Pynciau cysylltiedig