Cyfnod o 'ansicrwydd a phryder' i weithwyr dur Port Talbot

Arwydd gwaith dur Tata gyda'r gweithfeydd yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua 2,800 o staff Tata Steel, allan o weithlu o 8,000, yn colli eu swyddi

  • Cyhoeddwyd

Mae "cyfnod o ansicrwydd mawr a phryder" yn effeithio ar gymuned Port Talbot wrth i filoedd o weithwyr baratoi i golli eu gwaith, yn ôl cynghorydd lleol.

Dywed Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mai'r flaenoriaeth yw "cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio" gan y cynllun i gau'r ail ffwrnais chwyth fis nesaf.

Ddydd Iau, fe gadarnhaodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai swm cychwynnol o £13.5m ar gael i helpu gweithwyr a busnesau.

Ond mae Mr Llewelyn yn dweud y bydd angen cymorth am "ddegawdau" i ddod.

Dywedodd Tata Steel eu bod yn "cydnabod yr ansicrwydd sy'n wynebu gweithwyr" a bod "nifer o gynlluniau ar gael i gefnogi gweithwyr, gan gynnwys hwb iechyd meddwl".

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Ry’n ni am gefnogi pawb sy’n wynebu colli swyddi," meddai Alun Llewelyn

Ym mis Gorffennaf fe gaeodd y cyntaf o ddwy ffwrnes chwyth sy'n cau fel rhan o gynlluniau cwmni Tata i symud tuag at gynhyrchu dur gwyrddach.

Y gred yw y bydd yr ail ffwrnes chwyth yn cau fis nesaf.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Llewelyn y pryder yw "bydd pobl yn symud i ffwrdd i gael gwaith" gan olygu y bydd yr ardal yn colli sgiliau.

"Ry'n ni am 'neud siŵr bod y llywodraethau - naill ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y Deyrnas Unedig - yn cadw ffydd gyda'r gymuned ac yn cadw buddsoddiad yn yr ardal, nid am wythnosau, nid am fisoedd ond am ddegawdau."

Disgrifiad o’r llun,

Nia Griffith: Llywodraeth y DU am geisio sicrhau lot o ddatblygiad ym Mhort Talbot yn y dyfodol

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal trafodaethau ar wahân yn y gobaith o achub 2,800 o swyddi.

Mae'n fwriad gan y llywodraeth, medd y gweinidog yn Swyddfa Cymru - AS Llanelli Nia Griffith - i geisio sicrhau "bod 'na lot o ddatblygiad" ym Mhort Talbot yn y dyfodol.

Dywedodd y bydd "cymaint o gyfleoedd gyda'r porthladd a gyda'r ffaith nawr bod ni yn buddsoddi yn ynni gwynt ar y môr".

Bydd cyfle, felly, "i ddatblygu'r diwydiannau yna ym Mhort Talbot ei hun" gan "gydweithio gyda'r awdurdod lleol".

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Williams wedi gweithio yn y gweithfeydd dur am 18 o flynyddoedd

Yn ôl Adam Williams, sydd wedi gweithio yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot ers 18 mlynedd, mae'r hwyliau ymhlith staff yn "ddigalon" oherwydd yr ansicrwydd.

"Nid yw pobl yn gwybod eu dyddiadau, nid ydyn nhw'n gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol," meddai.

"Nid yw pobl yn gwybod sut le fydd y gwaith dur, na sut strwythur gweithio fydd yno."

Er ei fod yn gweithio shifftiau yn y gwaith dur o hyd, mae Adam wedi penderfynu sefydlu busnes ei hun er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol.

"Dyw nifer o'r swyddi eraill sydd ar gael ddim yn cynnig y fath arian dwi'n ei ennill nawr.

"Does gen i ddim cymwysterau felly o'n i eisiau gweld be' o'n i'n gallu gwneud i fy hun."

Er bod "gwneud dwy swydd yn anodd", mae Adam yn "teimlo'n obeithiol" wrth feddwl am ddyfodol ei fusnes.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd taid a thad Thomas Morley hefyd yn gweithio yn y gweithfeydd dur

Yng nghlwb rygbi'r Harlequins yn Aberafan, yng nghysgod y gwaith dur, mae meddyliau'r tîm ar yr wythnosau sydd i ddod.

Mae aelodau o deulu Thomas Morley, 30 oed, wedi gweithio yno ers degawdau.

“Fi yw’r drydedd genhedlaeth o fy nheulu sydd wedi gweithio yno, roedd fy nhaid yno, roedd fy nhad yno, a chefais gynnig swydd yno trwy lwc.”

Roedd Thomas yno am dair blynedd cyn symud i weithio yn y byd technoleg.

Mae e'n dweud bod "diffyg cyfathrebu" gan Tata yn achosi pryder mawr i'w ffrindiau a'i deulu sy'n gweithio yno o hyd.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Morgan Evans yn teimlo fod y gwaith dur yn rhan o hunaniaeth y dref

Yn ôl Morgan Evans, 24 oed, mae'r "pwysau yn effeithio ar bawb", yn enwedig aelodau o'i deulu sy'n gweithio yn y gwaith dur.

“Dwi wedi byw yma ar hyd fy oes, a bob dydd rwy’n edrych draw at y gwaith dur, mae’n rhan o hunaniaeth y dref," meddai.

“Mae’n gyfnod mor ansicr i bawb, mae’r straen yn effeithio nid yn unig ar y gweithwyr ond ar eu teuluoedd hefyd.”

Dadansoddiad Felicity Evans, Golygydd Arian BBC Cymru

Cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, pan yr oedd y Blaid Lafur yn wrthblaid, roedden nhw’n feirniadol iawn o agwedd Llywodraeth y DU tuag at gynlluniau Tata ar gyfer Port Talbot.

Roedd y llywodraeth flaenorol wedi cytuno i roi £500m i’r cwmni tuag at adeiladu ffwrnais arc drydan newydd gwyrddach ac, ynghyd â Tata, creu cronfa bontio gwerth £100m i helpu gweithwyr a’r gymuned ehangach i ymdopi ag effaith colli miloedd o swyddi yn sgil cau'r ffwrneisi chwyth.

Fe wnaeth Llafur addo agwedd newydd ac wrth ddod i rym, dywedon nhw eu bod mewn trafodaethau gyda’r cwmni ac yn credu bod “bargen well ar gael”.

Ond mae'r cloc yn tician – dim ond un ffwrnais chwyth sy'n dal yn weithredol ym Mhort Talbot ac mae disgwyl iddi gau ym mis Medi o hyd.

Mae llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn dechrau gwario’r gronfa bontio a gyhoeddwyd gan y Ceidwadwyr, ond ar hyn o bryd, dyw eu cynllun ddim yn ymddangos yn wahanol iawn.

'Cydnabod yr ansicrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: "Rydym yn cydnabod yr ansicrwydd sy'n wynebu gweithwyr wrth i ni ailstrwythuro'r busnes er mwyn mynd i'r afael â cholledion dyddiol o £1m, ac mae deunydd eang ar gael i helpu pobl ddeall amseru a natur y newidiadau sy'n cael eu gwneud.

"Mae nifer o gynlluniau ar gael i gefnogi gweithwyr, gan gynnwys hwb iechyd meddwl, rhwydwaith o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, tîm iechyd galwedigaethol, rhaglen annibynnol i gefnogi gweithwyr ac ymgyrchoedd iechyd meddwl a lles a hyfforddiant i reolwyr llinell.

"Ry'n ni hefyd yn chwarae rhan flaenllaw ar y bwrdd trawsnewid, wedi cyfrannu £20m, ac yn helpu gweithwyr i ennill cymwysterau ffurfiol ac yn caniatáu i'r adran cyllid a thollau ymweld â'r safle.

"Rydym yn falch iawn bod cymaint o gwmnïau wedi cynnig swyddi neu gefnogaeth i weithwyr, ac yn fuan byddwn yn cyhoeddi ein bod wedi penodi asiantaeth allanol i gynnig cefnogaeth hefyd.

"Mae arolwg diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ein gweithwyr yn ne Cymru wedi ei gwblhau, ac rydym yn gweithio drwy'r ymatebion hynny gyda phawb sydd wedi mynegi diddordeb.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r undebau llafur, llywodraethau Cymru a'r DU, cynghorau lleol ac asiantaethau cefnogi allanol er mwyn lleihau effaith y newidiadau hyn ar ein gweithwyr, y gadwyn gyflenwi a'r cymunedau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda gwaith dur Tata, yr undebau, y gadwyn gyflenwi, a phartneriaid lleol ers ymhell dros ddegawd.

"Rydyn ni wedi gwneud ein pryderon ynghylch amserlen y cyfnod pontio yn glir, ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth ynghylch yr effaith niweidiol y bydd yn ei chael ar gynifer o bobl, yn enwedig ym Mhort Talbot a'r cyffiniau.

"Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth newydd y DU a phartneriaid ar y bwrdd pontio, drwy'r gronfa bontio gwerth £100m, ac amryw o ymyriadau eraill, rydyn ni’n atgyfnerthu'r ymrwymiad hwnnw i sicrhau bod gweithlu Tata, y gadwyn gyflenwi a'r cymunedau lleol yn cael eu cefnogi nid yn unig yn y tymor byr ond ymhell i'r dyfodol.

"Rydyn ni’n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU heddiw fel arwydd pellach o'r gefnogaeth gyfannol honno.”