'Torcalon' Wynne Evans wedi 'jôc fewnol' Strictly

Katya Jones a Wynne Evans yn dawnsio'r tango ar raglen Strictly Come Dancing nos SadwrnFfynhonnell y llun, Guy Levy/BBC/PA Wire
  • Cyhoeddwyd

Mae Wynne Evans yn dweud bod sylwadau negyddol dros y penwythnos ynghylch ei ymddygiad at ei bartner dawnsio proffesiynol Katya Jones yn rhaglen Strictly Come Dancing y BBC wedi bod yn "dorcalonnus".

Roedd y darlledwr a'r canwr opera yn ymateb wedi i wylwyr awgrymu bod yna eiliadau o annifyrrwch rhwng y ddau yn ystod rhaglen nos Sadwrn.

Roedd yn ymddangos bod Jones wedi gwrthod ymateb i high-five gan Evans, a'i bod ar achlysur arall wedi symud ei law o'i chanol.

Mae'r pâr eisoes wedi mynnu mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol bod gwrthod high-five wedi bod yn "jôc" rhyngddyn ers dechrau'r gyfres.

Ac mae Jones wedi dweud mai "nonsens" yw awgrym bod Evans wedi gwneud iddi "deimlo'n anghyfforddus neu fy mhechu mewn unrhyw ffordd".

Dywedodd Wynne Evans ei hun wrth BBC Radio Wales ddydd Llun: "Rwy' mo'yn cario 'mlaen i ddawnsio - rwy' mo'yn i bobl barhau i'n cefnogi."

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod "tîm lles wedi cysylltu â'r ddau a does dim bwriad i gymryd camau pellach".

Ffynhonnell y llun, BBC Studios
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd gwylwyr Strictly Come Dancing Katya Jones yn gwrthod 'high five' Wynne Evans yn ystod rhaglen nos Sadwrn

Fe fu Evans yn trafod y sefyllfa gyda Radio Wales Breakfast ddydd Llun cyn cyflwyno ei raglen foreol am 09:00.

"Rwy' wedi bod yn hollol dorcalonnus oherwydd y pethau sydd wedi eu hysgrifennu amdana'i yn y diwrnod diwethaf," dywedodd. "Dyw e ddim yn neis i fyw drwy'r amser yna.

"Mae Katya a finnau yn agos iawn, iawn a ni'n ffrindiau gwirioneddol dda. Nos Sadwrn wnaethon ni jôc wirion - roedd yn jôc wirion a aeth o chwith.

"Roedden ni'n meddwl bod e'n ddoniol. Doedd e ddim yn ddoniol [ond] roedd yn cael ei gamddehongli'n llwyr.

"Mae popeth ar socials Katya. Mae hi wedi trafod y peth, mae hi wedi egluro mai jôc oedd e, bod hi heb bechu o gwbl, bod hi ddim yn teimlo'n anghyfforddus.

"Mae gyda ni gyfeillgarwch wych - cyfeillgarwch glòs - a mae'n flin 'da fi os gafodd unrhyw un ei bechu ganddo ond dim ond jôc oedd e a dyna oll sydd iddo.

"S'dim stori fawr yna a rwy'n teimlo'n rhyfedd yn ymddiheuro oherwydd rwy'n teimlo bo' fi heb wneud dim byd mewn gwirionedd."

Ffynhonnell y llun, Guy Levy/BBC/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Y tango oedd dawns Katya Jones a Wynne Evans nos Sadwrn ac fe gafodd ei pherfformio i'r gân Money, Money, Money gan ABBA

Fe ddigwyddodd y ddau achlysur ar y balconi ble mae'r cystadleuwyr yn ymgynnull, yng nghwmni'r gyflwynwraig Claudia Winkleman, ac yn derbyn sgoriau'r beirniaid ar ôl perfformio.

Yn y fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Jones yn dweud mai "tynnu coes" oedden nhw, cyn i'r ddau ddweud "mae'n ddrwg 'da ni".

Mewn fideo pellach ddydd Sul, dywedodd mai "jôc fewnol rhyngddo fi a Wynne" oedd y digwyddiad "hynod wirion" pan symudodd ei law o'i chanol.

"Mae hyd yn oed y syniad bod e wedi gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus neu fy mhechu mewn unrhyw ffordd yn nonsens llwyr," ychwanegodd.

"Mae'n eitha' abswrd, mewn gwirionedd. Nawr, gallen ni ganolbwyntio ar pa mor wych mae e'n gwneud a'i fod yn datblygu i fod yn ddawnsiwr rhyfeddol?"

Ffynhonnell y llun, BBC / PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Wynne Evans ei fod yn cael "amser gorau fy mywyd" wrth fod yn rhan o raglen Strictly Come Dancing

Roedd yr holl sylwadau negyddol yn fwy siomedig fyth i Wynne Evans oherwydd roedd y pâr "ar massive high" yn dilyn perfformiad campus o'r tango, a'u gwelodd yn ail yn nhabl y gystadleuaeth ar y noson.

Dywedodd ddydd Llun fod Katya wedi "neidio i'm mreichia' a gofyn 'O ble ddaeth HYNNA?!' a finna'n dweud 'Sa i'n gwybod!'... nes i jest cofio'r holl nodiadau a wnaethon nhw ddawnsio fel pe tai eich bywyd yn dibynnu arno.

"Mae'n sefyllfa anodd... dydw i ddim yn ddawnsiwr a'r tro cyntaf wnes i sefyll ar lawr ddawnsio Strictly ro'dd cywilydd 'da fi ddawnsio o flaen pobl.

"Nawr chi'n mynd mas o flaen miliynau o bobl ar nos Sadwrn ac yn caniatáu i'ch hun fod yn fregus [ond] mae wedi bod yn wych."

Hyd yn oed wedi profiadau'r penwythnos, mae'n dweud ei bod yn dal "yn cyffroi" o fod yn rhan o'r gystadleuaeth.

"Rwy'n cael amser gorau fy mywyd," meddai. "Rwy' jyst ddim mo'yn i hyn fod y peth mae pobl yn ei gofio."

Pynciau cysylltiedig