Saitama
Math | dinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, satellite city, dinas fawr, dinas Japan, city for international conferences and tourism, educational town |
---|---|
Enwyd ar ôl | Saitama |
Prifddinas | Urawa-ku |
Poblogaeth | 1,325,843 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Yume no Machi |
Pennaeth llywodraeth | Hayato Shimizu |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Saitama |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 217.43 km² |
Gerllaw | Afon Arakawa, Q28693338, Afon Shiba, Afon Kamo |
Yn ffinio gyda | Ageo, Kawaguchi, Asaka, Kawagoe, Shiki, Toda, Hasuda, Fujimi, Warabi, Kasukabe, Koshigaya, Shiraoka |
Cyfesurynnau | 35.8614°N 139.6456°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Saitama |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Saitama |
Pennaeth y Llywodraeth | Hayato Shimizu |
- Erthygl ynglŷn â'r ddinas yw hon. Am dalaith Saitama, gweler Saitama (talaith).
Dinas yn Japan yw Saitama (Japaneg:さいたま市 Saitama-shi), prifddinas talaith Saitama a 10fed dinas fwyaf Japan o ran poblogaeth. Gan ei bod wedi ei lleoli o fewn Ardal Tokyo Fwyaf tua 30 kilometr i'r gogledd o ganol Tokyo mae cyfran fawr o'i phobl yn cymudo i Tokyo. Wedi ei ffurfio ar 1 Mai 2001 a'i dynodi ar 1 Ebrill 2003, mae Saitama yn enghraifft o ddinas dynodedig yn Japan a ddynodwyd trwy ordinhad llywodraeth sydd yn cael eu ffurfio drwy uno trefi a phentrefi cyfagos sydd a phoblogaeth o dros 500,000. Yn wahanol i ran fwyaf o ddinasoedd Japan, ysgrifennir enw'r ddinas gan ddefnyddio'r hiragana, er mai dyma oedd ail ddewis mwyaf poblogaidd gan y cyhoedd mewn pleidlais i ddewis enw newydd y ddinas. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd y ffordd draddodiadol o ysgrifennu enw'r ddinas, hynny yw trwy ddefnyddio kanji (埼玉市) fel enw'r dalaith.
Wardiau
[golygu | golygu cod]Mae i Saitama ddeg o wardiau (ku), pob un a'i liw penodedig ers April 2005:
■1 – Chūō-ku | (Ystyr: Canol) 中央区 | (Pinc tywyll) |
■2 – Iwatsuki-ku | 岩槻区 | (Oren) |
■3 – Kita-ku | (Ystyr: Gogledd) 北区 | (Gwyrdd tywyll) |
■4 – Midori-ku | (Ystyr: Gwyrdd) 緑区 | (Gwyrdd) |
■5 – Minami-ku | (Ystyr: De) 南区 | (Melyn) |
■6 – Minuma-ku | 見沼区 | (Glas golau) |
■7 – Nishi-ku | (Ystyr: Gorllewin) 西区 | (Glas) |
■8 – Ōmiya-ku | (Ystyr: Prif Gysegr) 大宮区 | (Oren tywyll) |
■9 – Sakura-ku | (Ystyr: Coeden Geirios) 桜区 | (Pinc golau) |
■10 – Urawa-ku | 浦和区 | (Coch) – canolfan weinyddol |