Neidio i'r cynnwys

Robert Filmer

Oddi ar Wicipedia
Robert Filmer
Portread o Syr Robert Filmer o 1650
Ganwyd1588 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 1653 Edit this on Wikidata
East Sutton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, llenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPatriarcha Edit this on Wikidata
TadEdward Filmer Edit this on Wikidata
MamElizabeth Argall Edit this on Wikidata
PlantSir Robert Filmer, 1st Baronet Edit this on Wikidata

Damcaniaethwr gwleidyddol o Loegr yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr oedd Syr Robert Filmer (tua 158826 Mai 1653) sydd yn nodedig am amddiffyn dwyfol hawl brenhinoedd ac arddel ffurf absoliwtaidd ar frenhiniaeth.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, a Lincoln's Inn. Aeth Robert Filmer, ei frawd, a'i fab i lys y Brenin Siarl I, a fe'i urddwyd yn farchog. Yn ystod y rhyfel cartref cafodd ei gartref yn East Sutton, ger Middlestone, Caint, ei anrheithio gan y Seneddwyr, a charcharwyd Filmer am fod yn frenhinwr, er na erioed brwydrodd ar faes y gad dros achos y brenin.

Cyhoeddwyd ei draethodau gwleidyddol yn ystod cyfnod hwyr y rhyfeloedd cartref, rhwng 1648 a'i farwolaeth—yn East Sutton, oddeutu 65 oed—ym 1653.[1] Adargraffwyd y rheiny ym 1679 adeg Argyfwng y Gwahardd, a chyhoeddwyd ei brif waith, Patriarcha, am y tro cyntaf ym 1680. Byddai John Locke yn lladd ar ysgrifau Filmer wrth ymdrin â phwnc llywodraeth.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Robert Filmer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Hydref 2022.