Neidio i'r cynnwys

Papyrws

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Papyrus)
Papyrws
Mathdeunydd planhigion, deunydd ysgrifennu paleograffig, deunydd peintio Edit this on Wikidata
CynnyrchCyperus papyrus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dogfen (bil gwerthiant) a ysgrifennwyd yn Hen Roeg ar bapyrws (126 OC)

Deunydd i ysgrifennu arno sy'n debyg i bapur yw papyrws. Mae wedi'i wneud o graidd coesau'r planhigyn papyrws, Cyperus papyrus, sy'n tyfu mewn dŵr bas ac sy'n frodor o Affrica. Yn yr Henfyd byddai dalennau o'r deunydd yn cael eu huno i ffurfio sgroliau, a oedd yn cyflawni swyddogaeth llyfrau bryd hynny.

Roedd papyrws yn cael ei ddefnyddio yn yr Hen Aifft ers o leiaf 2550 CC.[1] Arferai'r planhigyn papyrws fod yn doreithiog ledled delta Afon Nîl. Defnyddiodd Eifftiaid yr Henfyd y deunydd nid yn unig i ysgrifennu arno, ond i wneud rhaff, matiau, sandalau, basgedi a hyd yn oed cychod.

Roedd papyrws yn rhad ac yn hawdd i'w wneud, ond roedd yn fregus ac yn hawdd i'w ddifrodi.[2] Yn y pen draw, cafodd ei ddisodli fel deunydd ysgrifennu gan femrwn ac yn ddiweddarach gan bapur.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Pierre Tallet, "Ayn Sukhna and Wadi el-Jarf: Two newly discovered pharaonic harbours on the Suez Gulf", British Museum Studies in Ancient Egypt and Sudan 18 (2012): 147–68; adalwyd 3 Mehefin 2021
  2. Thomas F. X. Noble (9 Chwefror 2004). Noble-Western Civilization: The Continuing Experiment (yn Saesneg). Houghton Mifflin. t. 14. ISBN 978-0-618-43277-6.
Cyperus payrus, y planhigyn payrws yn tyfu yn Sisili