John Rowlands (awdur)
John Rowlands | |
---|---|
Ganwyd | 14 Awst 1938 Trawsfynydd |
Bu farw | 23 Chwefror 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Llenor ac academydd Cymraeg oedd Yr Athro John Rowlands (14 Awst 1938 – 23 Chwefror 2015).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd John Rowlands ar fferm Tyddyn Bach ym mhlwyf Trawsfynydd ar 14 Awst 1938. Cafodd ei addysg yn Ysgol Bronaber ac Ysgol Sir Ffestiniog. Astudiodd am radd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor gan ennill gradd Meistr yno hefyd cyn mynd ymlaen i gwblhau doethuriaeth dan oruchwyliaeth yr Athro Idris Foster ym Mhrifysgol Rhydychen.[1]
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Lle Bo'r Gwenyn, ym 1960. Dilynwyd hon gan sawl nofel ddadleuol, gan gynnwys Ienctid Yw 'Mhechod, a gyhoeddwyd ym 1965.[2]
Yn ogystal â chyflawni ei waith fel awdur, bu John Rowlands hefyd yn gweithio fel darlithydd yn adrannau Cymraeg Coleg Y Drindod, Caerfyrddin, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Wedi ymddeol, parhaodd i weithio fel cynorthwyydd ar gyrsiau ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor[3].
Mae ei waith academaidd yn cynnwys golygu'r gyfres lenyddol Y Meddwl a'r Dychymyg Cymraeg, a sawl papur ymchwil. Roedd yn ffigwr amlwg fel beirniad llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn ysgrifennu erthyglau i'r cylchgrawn materion cyfoes Barn.
Caiff ei gydnabod fel "un o’r gwŷr llên mwyaf dylanwadol ei bresenoldeb a helaeth ei gyfraniad" yng Nghymru.[3]
Nofelau
[golygu | golygu cod]- Lle Bo'r Gwenyn (1960)
- Yn ôl i'w Teyrnasoedd (1963)
- Ieuenctid yw 'Mhechod (1965)
- Llawer Is na'r Angylion (1968)
- Bydded Tywyllwch (1969)
- Arch ym Mhrâg (1972)
- Tician, Tician (1978)
Llyfrau academaidd
[golygu | golygu cod]- Priodas Waed (cyfieithiad o Bodas de Sangre gan Lorca (gyda R. Bryn Williams) (1977)
- Writers of Wales, T. Rowland Hughes (1975)
- Profiles (gyda G. Jones) (1981)
- Cnoi Cîl ar Lenyddiaeth (1989)
- Ysgrifau ar y Nofel (1992)
- Y Meddwl a'r Dychymyg Cymraeg - (golygydd y gyfres)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Meic Stephens gol.. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd. 1986.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ 3.0 3.1 Gwefan Prifysgol Bangor
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Rhestr o Nofelau John Rowlands Archifwyd 2010-12-05 yn y Peiriant Wayback