Uibhist a Tuath
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Loch nam Madadh |
Poblogaeth | 1,254 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 30,305 ha |
Gerllaw | Minch, Sea of the Hebrides |
Cyfesurynnau | 57.6°N 7.3333°W |
Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Uibhist a Tuath (Saesneg: North Uist).
Uibhist a Tuath yw'r ynys fwyaf gogleddol o'r grŵp deheuol o Ynysoedd Allanol Heledd. Enw arall arni yw Tir an Eòrna, "Tir yr Haidd". Mae tua 30 km o hyd a 20 km o led, gyda llynnoedd yn ffurfio tua traean o'i harwynebedd. Tir cymharol isel yw'r rhan fwyaf o'r ynys, gyda'r copa uchaf, Maireabhal (Saesneg: Marrival) yn 230 metr uwch lefel y môr. Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas, yn cynnwys Beàrnaraigh, Orosaigh, Baile Siar a Griomasaigh. I’r gogledd, mae sarn yn cario’r ffordd i Beàrnaraigh, lle mae fferi Calmac (talfyriad o Caledonian MacBrayne) i Leverburgh ar Na Hearadh (“Harris”)[1]. I'r de, mae'r briffordd A865 yn ei chysylltu ag ynys Beinn na Faoghla (Benbecula). Mae'r boblogaeth tua 1,500, gyda'r mwyafrif yn siarad Gaeleg. Y pentref mwyaf yw Loch na Madadh.
Rhoddwyd yr ynys gan y brenin James IV o’r Alban i’r teulu McDonald o Sleat (Mae Sleat ar An t-Eilean Sgitheanach - Saesneg:Skye - ym 1495. Cliriwyd mwyafrif y preswylwyr o’r tir cyn iddynt wedi gwerthu’r ynys ym 1855.[2]
Mae gan Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar warchodfa ar yr ynys, sef Gwarchodfa Natur Balranald.[3]
Mae fferi CalMac yn cysylltu Loch na Madadh ag Ynys Skye.[4]