Chwarel y Fron
Gwedd
Math | chwarel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.07069°N 4.2195°W |
Chwarel lechi uwchben Dyffryn Nantlle, Gwynedd oedd Chwarel y Fron. Saif gerllaw pentref Y Fron.
Gweithiwyd y chwarel o ganol y 19g hyd y 1950au, ac ar un cyfnod roedd yn cyflogi hyd at gant o weithwyr. Mae'r safle yn awr yn eiddo i Hogan Brothers, sy'n ei defnyddio ar gyfer deunydd i adeiladu a thrwsio ffyrdd.
Yn 2002, defnyddiwyd y chwarel i ffilmio Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life.