Cartŵn
Gall cartŵn fod yn un o sawl dull o ddarlunio. Mae sawl dehongliad o'i ystyr wedi tarddu o'r ystyr gwreiddiol. Mae cartŵn (o'r Eidaleg cartone a'r gair Iseldireg/Flandrys "karton", sy'n golygu papur neu gerdyn trwm, cryf) yn ddarlun maint llawn a wneir ar bapur fel sail astudiaethau pellach megis paentio neu bwythwaith. Defnyddir cartwnau'n aml yn y broses o greu ffresgo, i gysylltu'n fanwl gywir, pob rhan o'r cyfansoddiad pan baentir ar blastr dros gyfnod o ddyddiau. Mae gan y cartwnau'n aml, nifer o dyllau pin ynddynt ble defnyddiwyd hi i amlinellu'r darlun ar y plastr. Mae cartwnau arlunwyr megis Raffael a Leonardo da Vinci yn werthfawr iawn.
Argraffu
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Cartŵn gwleidyddol.
Ym myd argraffu modern, ystyr cartŵn ydy delwedd ddigri. Defnyddir y gair yn y cyd-destun yma ers 1843 pan ddefnyddiodd y Cylchgrawn Punch y gair i ddisgrifio darluniau gwatwarus, yn arbennig darluniau gan John Leech.
Animeiddio
[golygu | golygu cod]Oherwydd steil tebyg stribedi comig a ffilmiau cynnar wedi eu hanimeiddio, defnyddiwyd y gair "cartŵn" am "animeiddio", dyma'r ffurf o'r gair cartŵn a ddefnyddir gan amlaf heddiw. Gellir gweld cartwnau gan amlaf ar y teledu neu yn y sinema. Crëir y rhain drwy ddangos cyfres o ddarluniau yn sydyn iawn i roi'r argraff o symudiad neu drwy gynhyrchiad cyfrifiadurol.
Gwyddoniaeth
[golygu | golygu cod]Defnyddir y term cartŵn weithiau ym myd gwyddoniaeth i olygu diagram, yn arbenig un sy'n cyfleu digwyddiadau cyffredinol yn hytrach nag esiampl arbennig.
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- Archif o gartwnau o papur newydd The New Yorker
- Cartwnau Chwaraeon Archifwyd 2007-09-25 yn y Peiriant Wayback
- BrazilCartoon.com Archifwyd 2020-10-30 yn y Peiriant Wayback
- Toonopedia Don Markenstein
- Bâs ddata Cartwnau Mawr Archifwyd 2012-12-04 yn archive.today
- Llyfrgell Archwilio Cartwnau Archifwyd 2007-07-10 yn y Peiriant Wayback
- Oes Aur Cartwnau
- The Cartoon Spot
- Pro Toonerz
- London Cartoon Gallery - Editorial Cartoons Archifwyd 2020-11-28 yn y Peiriant Wayback
- Kiotron Archifwyd 2021-05-12 yn y Peiriant Wayback
- Galeri gartwnau am ddim am faterion cyfoes Archifwyd 2022-01-29 yn y Peiriant Wayback
- Rhai cartwnau Archifwyd 2019-02-12 yn y Peiriant Wayback
- Cymuned cartwnio ar y wê