Afon Urdazuri
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Afon Nivelle)
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen Ffrainc |
Cyfesurynnau | 43.3883°N 1.6697°W, 43.2173°N 1.5231°W, 43.3875°N 1.6692°W |
Tarddiad | Urdazubi/Urdax |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Lapitxuri, Ibardingo erreka, Lizuniagako erreka |
Dalgylch | 279 cilometr sgwâr |
Hyd | 45 cilometr |
Arllwysiad | 5 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yng Ngwlad y Basg yw Urdazuri sy'n tarddu yn y Pyreneau ac sy'n llifo trwy dalaith draddodiadol Lapurdi yn rhan Ffrengig Gwlad y Basg, yn weinyddol yn rhan o département Pyrénées-Atlantiques. Mae'n aberu yn y Cefnfor Iwerydd yn Donibane Lohizune.
Enw
[golygu | golygu cod]Yr enw Ffrangeg, ac felly'r enw swyddogol a welir ar fapiau ac ati yw La Nivelle. Yn ogystal âg Urdazuri, ceir enwau Basgeg eraill ar yr afon neu rannau ohoni, megis Urgana, Sarrakaria, Urma, Ur Ertsi a Uhertsi.
Llwybr yr afon
[golygu | golygu cod]Mae'r afon yn deillio yn pentref Dantxarinea yn Nafarroa Garaia, ac yn llifo trwy fwrdeistref Urdazubi cyn croesi i Lapurdi a phentref Ainhoa, ac ymlaen trwy Senpere, Azkaine a Ziburu cyn aberu yn Donibane Lohizune.