Yr wyddor Georgeg
Enghraifft o'r canlynol | set, set, notation, gwyddor, script family |
---|---|
Math | sgript naturiol, system ysgrifennu, treftadaeth |
Iaith | Ieithoedd Cartfeleg, Georgeg |
Dechrau/Sefydlu | 5 g |
Yn cynnwys | Asomtavruli, Nuskhuri, Mkhedruli, Mtavruli, Khutsuri, modern Georgian script |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr wyddor Georgeg (Georgeg: ქართული დამწერლობა?, kartuli damts'erloba; yn llythrennol - "sgriptiau Georgaidd") yw'r tair system ysgrifennu a ddefnyddir ar hyn o bryd i ysgrifennu'r iaith Georgeg fel eu traddodiad llenyddol fel rhai o'r ieithoedd Cartfeleg eraill, Mingreleg, Svan, a Laz, ac yn achlysurol ieithoedd eraill y Cawcasws megis Oseteg ac Abchaseg yn ystod y 1940au.[1] Orgraff ffonemig sydd i'r iaith Georgeg ac mae'r wyddor gyfredol yn cynnwys 33 llythyren; roedd ganddi fwy yn wreiddiol, ond mae rhai wedi darfod (gweler y blychau tywyll yn y tabl).[2][3]
Daw'r gair "wyddor" (Georgeg: ანბანი, anbani) o gyfuno enwau dwy lythyren gyntaf tair gwyddor y Georgeg; mae'r rhain yn wahanol iawn i'w gilydd, ond yn rhannu'r un drefn yn nhrefn yr wyddor.[4] Ysgrifennir Georgeg o'r chwith i'r dde ac yn swyddogol ni ddefnyddir priflythrennau.[5]
Mkhedruli - sgript brenhinol sifil Teyrnas Georgia, a ddefnyddir ar y pryd yn bennaf ar gyfer siarteri brenhinol - yw'r sgript safonol heddiw ar gyfer ieithoedd Georgaidd modern ac ieithoedd Cartfelaidd eraill, tra bod Asomtavruli a Nuskhuri yn cael eu defnyddio dim ond gan Eglwys Uniongred Georgia, yn nhestunau seremonïau crefyddol ac mewn eiconograffeg.
Tarddiad yr wyddor
[golygu | golygu cod]Mae 'Croniclau Georgaidd' (7fed ganrif) yn honni i'r wyddor hon gael ei dyfeisio o dan deyrnasiad Pharnabazus I o Iberia (299-234 CC), (noder mai Iberia y Cawcasws golygir yma ac nid tiriogaeth Sbaen a Phortiwgal gyfoes) mewn cyfnod o ddylanwad diwylliannol Groegaidd cryf gan y wladwriaeth Seleucid gyfagos.[5]
Mae'r darganfyddiadau epigraffig diweddaraf yn cefnogi dyddio'r wyddor Georgeg gyntaf cyn Cristnogaeth. Yn Nek'resi (Kakheti), darganfuwyd pum arysgrif sydd wedi'u dyddio i'r 1af-3edd ganrif ar sail paleograffig. Dogfennau eraill sy'n perthyn i gyfnod hynaf yr wyddor Georgeg yw'r arysgrifau brithwaith ym mynachlogydd Georgaidd Palestina, arysgrif eglwys Bolnisi o'r 5ed ganri,[6] a rhai llinellau ar balimpsestau'r 5 i'r 6ed ganrif sy'n cynnwys testunau beiblaidd.[3][5]
Systemau ysgrifennu
[golygu | golygu cod]Er i Georgia ddod o dan ddylanwadau diwylliannol gwahanol yn ystod cyfnod ffurfio'r wyddor, nid oes amheuaeth mai'r wyddor Roegaidd a gafodd y dylanwad mwyaf dwys, i'r graddau bod yr wyddor Georgeg yn ei drafft cyntaf yn cynnwys llythrennau yn cyfateb i synau'r iaith Roeg nad ydynt yn bodoli yn y Georgeg.[2]
Fodd bynnag, roedd systemau ysgrifennu eraill yn parhau i gael eu defnyddio yn Georgia. Yng nghanol yr 2il ganrif, cododd y Dywysoges Serapita stela Graeco-Aramaeg ddwyieithog yn Mtskheta, sy'n defnyddio cymysgedd o ysgrifen Armeneg a Georgeg o'r enw armazi.[7]
Ysgrifennwyd y dogfennau hynaf mewn sgript o'r enw asomtavruli (ასომთავრული), neu "priflythyrennau", gan ei bod yn cynnwys prif lythrennau yn unig, i gyd o'r un maint.[5] Y sgript hon, a elwir hefyd yn mtavruli neu mrglovani, oedd yr unig system a ddefnyddiwyd hyd at y 9g, pan ymunodd y sgript Nuskhuri â hi (ნუსხური). Dim ond llythrennau bach sydd i Nuskhuri ac mae'n llawer mwy addas i'w ysgrifennu ar femrwn.[8]
Mae'r arysgrif gynharaf yn Nuskhuri yn dyddio i'r flwyddyn 835, ond dim ond o'r 10gy daeth y ffurf hon o ysgrifennu i ddefnydd cyffredin. Mae yna lawysgrifau lle mae dwy sgript y cyfnod hwnnw (asomtavruli a nuskhuri) yn cael eu defnyddio gyda'i gilydd. Gyda'i gilydd, galwyd y ddwy ffurf hyn yn khutsuri (ხუცური) yn y 12g, neu sgriptiau eglwysig, pan ddaeth trydedd ffurf ar ysgrifennu i'r amlwg, o'r enw mkhedruli (მხედრული), sy'n dal i gael ei defnyddio heddiw. Mae Eglwys Uniongred Georgia'n parhau, fodd bynnag, i ddefnyddio khutsuri ar gyfer testunau litwrgaidd.[8]
Paratowyd y fersiwn argraffadwy gyntaf o'r wyddor Georgeg gan genhadon Catholig. Y llyfr cyntaf a argraffwyd yn yr wyddor oedd Geiriadur Georgeg ac Eidaleg Stefano Paolini a Niceforo Irbachi, a welodd y golau yn Rhufain yn 1629 ar gyfer mathau'r Sacra Congregatio de Propaganda Fide.[9] Yn lle hynny, sefydlwyd y tŷ cyhoeddi Georgeg cyntaf ym 1712 dan nawdd y Brenin Vaxtang VI, ac ar fenter Sulxan-Saba Orbeliani.
Yn y 19g, dylid cofio diwygio orthograffig Ilia Ch'avch'avadze, a oedd yn dileu pum llythyren a oedd wedi dod yn ddiwerth dros amser.[10]
Ymhlith dylunwyr teipiau Georgeg yr 20g ceir Anton Dumbadze, a gyfarwyddodd Gweithdy Teipograffeg Tbilisi o 1972. Mae ei ddyluniadau'n dal i gael eu defnyddio heddiw i gynhyrchu'r mwyafrif o ffontiau digidol.[11]
Yr Wyddorau
[golygu | golygu cod]Asomtavruli
[golygu | golygu cod]Llythrennau asomtavruli | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ⴀ | Ⴁ | Ⴂ | Ⴃ | Ⴄ | Ⴅ | Ⴆ | Ⴡ | Ⴇ | Ⴈ | Ⴉ | Ⴊ | Ⴋ | Ⴌ |
Ⴢ | Ⴍ | Ⴎ | Ⴏ | Ⴐ | Ⴑ | Ⴒ | Ⴣ | ႭჃ, Ⴓ | Ⴔ | Ⴕ | Ⴖ | Ⴗ | Ⴘ |
Ⴙ | Ⴚ | Ⴛ | Ⴜ | Ⴝ | Ⴞ | Ⴤ | Ⴟ | Ⴠ | Ⴥ |
Nuskhuri
[golygu | golygu cod]Llythrennau nuskhuri | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ⴀ | ⴁ | ⴂ | ⴃ | ⴄ | ⴅ | ⴆ | ⴡ | ⴇ | ⴈ | ⴉ | ⴊ | ⴋ | ⴌ |
ⴢ | ⴍ | ⴎ | ⴏ | ⴐ | ⴑ | ⴒ | ⴣ | ⴍⴣ, ⴓ | ⴔ | ⴕ | ⴖ | ⴗ | ⴘ |
ⴙ | ⴚ | ⴛ | ⴜ | ⴝ | ⴞ | ⴤ | ⴟ | ⴠ | ⴥ |
Mkhedruli
[golygu | golygu cod]Llythrennau mkhedruli | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ა | ბ | გ | დ | ე | ვ | ზ | ჱ | თ | ი | კ | ლ | მ | ნ | |
ჲ | ო | პ | ჟ | რ | ს | ტ | ჳ | უ | ფ | ქ | ღ | ყ | შ | |
ჩ | ც | ძ | წ | ჭ | ხ | ჴ | ჯ | ჰ | ჵ | ჶ | ჷ | ჺ | ჸ | ჹ |
Trawslythrennu
[golygu | golygu cod]Isod mae trawslythreniad o'r wyddor Georgeg i'r wyddor Ladin. Mae'r tabl cyntaf yn rhestru'r llythrennau hynny sy'n dal i gael eu defnyddio yn Georgeg yn unig.
Mkhedruli | Asomtavruli | Nuskhuri | Enw | Trawslythreniad swyddogol | ISO 9984:1996 | Trawslythreniad Gymraeg | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Glyff | Unicode | Glyff | Unicode | Glyff | Unicode | ||||
ა | U+10D0 | Ⴀ | U+10A0 | ⴀ | U+2D00 | AN | A a | A a | A a |
ბ | U+10D1 | Ⴁ | U+10A1 | ⴁ | U+2D01 | BAN | B b | B b | B b |
გ | U+10D2 | Ⴂ | U+10A2 | ⴂ | U+2D02 | GAN | G g | G g | G g |
დ | U+10D3 | Ⴃ | U+10A3 | ⴃ | U+2D03 | DON | D d | D d | D d |
ე | U+10D4 | Ⴄ | U+10A4 | ⴄ | U+2D04 | EN | E e | E e | E e |
ვ | U+10D5 | Ⴅ | U+10A5 | ⴅ | U+2D05 | VIN | V v | V v | V v |
ზ | U+10D6 | Ⴆ | U+10A6 | ⴆ | U+2D06 | ZEN | Z z | Z z | Z z |
თ | U+10D7 | Ⴇ | U+10A7 | ⴇ | U+2D07 | TAN | T t | T’ t’ | T t |
ი | U+10D8 | Ⴈ | U+10A8 | ⴈ | U+2D08 | IN | I i | I i | I i |
კ | U+10D9 | Ⴉ | U+10A9 | ⴉ | U+2D09 | KAN | K’ k’ | K k | C c |
ლ | U+10DA | Ⴊ | U+10AA | ⴊ | U+2D0A | LAS | L l | L l | L l |
მ | U+10DB | Ⴋ | U+10AB | ⴋ | U+2D0B | MAN | M m | M m | M m |
ნ | U+10DC | Ⴌ | U+10AC | ⴌ | U+2D0C | NAR | N n | N n | N n |
ო | U+10DD | Ⴍ | U+10AD | ⴍ | U+2D0D | ON | O o | O o | O o |
პ | U+10DE | Ⴎ | U+10AE | ⴎ | U+2D0E | PAR | P’ p’ | P p | P p |
ჟ | U+10DF | Ⴏ | U+10AF | ⴏ | U+2D0F | ZHAR | Zh zh | Ž ž | Zh zh |
რ | U+10E0 | Ⴐ | U+10B0 | ⴐ | U+2D10 | RAE | R r | R r | R r |
ს | U+10E1 | Ⴑ | U+10B1 | ⴑ | U+2D11 | SAN | S s | S s | S s |
ტ | U+10E2 | Ⴒ | U+10B2 | ⴒ | U+2D12 | TAR | T’ T’ | T t | T t |
უ | U+10E3 | Ⴓ | U+10B3 | ⴓ | U+2D13 | UN | U u | U u | W w |
ფ | U+10E4 | Ⴔ | U+10B4 | ⴔ | U+2D14 | PHAR | P p | P’ p’ | P p |
ქ | U+10E5 | Ⴕ | U+10B5 | ⴕ | U+2D15 | KHAR | K k | K’ k’ | C c |
ღ | U+10E6 | Ⴖ | U+10B6 | ⴖ | U+2D16 | GHAN | Gh gh | Ḡ ḡ | Gh gh (rhwng g ac ch) |
ყ | U+10E7 | Ⴗ | U+10B7 | ⴗ | U+2D17 | QAR | Q’ q’ | Q q | Q q |
შ | U+10E8 | Ⴘ | U+10B8 | ⴘ | U+2D18 | SHIN | Sh sh | Š š | Sh sh |
ჩ | U+10E9 | Ⴙ | U+10B9 | ⴙ | U+2D19 | CHIN | Ch ch | C’ c’ | Tch tc (ch Saesneg) |
ც | U+10EA | Ⴚ | U+10BA | ⴚ | U+2D1A | CAN | Ts ts | C’ c’ | Ts ts |
ძ | U+10EB | Ⴛ | U+10BB | ⴛ | U+2D1B | JIL | Dz dz | J j | j j |
წ | U+10EC | Ⴜ | U+10BC | ⴜ | U+2D1C | CIL | Ts’ ts’ | C c | Ts ts |
ჭ | U+10ED | Ⴝ | U+10BD | ⴝ | U+2D1D | CHAR | Ch’ ch’ | C c | Tch tch |
ხ | U+10EE | Ⴞ | U+10BE | ⴞ | U+2D1E | XAN | Kh kh | X x | Ch ch |
ჯ | U+10EF | Ⴟ | U+10BF | ⴟ | U+2D1F | JHAN | J j | J j | J j |
ჰ | U+10F0 | Ⴠ | U+10C0 | ⴠ | U+2D20 | HAE | H h | H h | H h |
Rhestrir y llythrennau nas defnyddir bellach isod.
Mchedroeli | Asomtavroeli | Noeschoeri | Naam | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Glief | Unicode | Glief | Unicode | Glief | Unicode | |
ჱ | U+10F1 | Ⴡ | U+10C1 | ⴡ | U+2D21 | HE |
ჲ | U+10F2 | Ⴢ | U+10C2 | ⴢ | U+2D22 | HIE |
ჳ | U+10F3 | Ⴣ | U+10C3 | ⴣ | U+2D23 | WE |
ჴ | U+10F4 | Ⴤ | U+10C4 | ⴤ | U+2D24 | HAR |
ჵ | U+10F5 | Ⴥ | U+10C5 | ⴥ | U+2D25 | HOE |
ჶ | U+10F6 | FI |
Oriel
[golygu | golygu cod]-
arwydd ffordd
-
Defnydd o'r wyddor Georgeg i ysgrifennu Abchaseg yn rannol er mwyn cymathu'r genedl honno adeg yr Undeb Sofietaidd (1938-1953)
-
Car heddlu gyda'r wyddor arno
-
Amrywiadau arddulliadol o'r llythrennau რ ac ლ ar arwydd enw stryd ar gyfer y Rustaveli Gamsiri, gyda sillafiad yr enw Rustaveli რუსთაველის yn debyg i ɦუსთავეჺის
-
Defnyddir y llythyren Georgeg ⟨ღ⟩ (ghani) yn aml fel symbol cariad neu galon ar-lein
-
Weithiau defnyddir y llythyren Georgeg ⟨ლ⟩ (lasi) fel llaw neu ddwrn mewn emoticons ( ex: ლ(╹◡╹ლ) )
-
Glôb pos Wikipedia ar wal Sefydliad Wikimedia, 2010-10-26
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Georgian alphabet (Mkhedruli)". Omniglot. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2023.
- ↑ 2.0 2.1 "7, Unique Language and Script". Visit Georgia. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
- ↑ 3.0 3.1 "Georgian". Ancient Scipt.com. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
- ↑ "Georgian alphabet". Visit Georgia. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "Georgian Alphabet". Ocf.berkeley.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ebrill 2012. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
- ↑ "Copia archiviata". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 20 Mawrth 2011. Kartli – il cuore della Georgia
- ↑ "Armazi". Armazi.com. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2011.
- ↑ 8.0 8.1 "History of the Georgian Language". Linguistics.byu.edu. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
- ↑ O'r Lladin Sacra congregazione per la diffusione della fede, cynulleidfa o'r Curia Rhufeinig a oedd yn gyfrifol am efengylu a gymerodd, yn 1967, yr enw Cynulleidfa er Efengylu Pobloedd..
- ↑ {{ |title=Guram Sharadz (ed., 1987).Ilia Chavchavadze works, translated by Marjory and Oliver Wardrops. Tbilisi: Ganatleba, 1987 |url=https://dspace.nplg.gov.ge/bitstream/1234/3771/1/Works.pdf |access-date=23 Gorffennaf 2023 |publisher=Llyfrgell Genedlaethol Senedd Georgia.}}
- ↑ "Dumbadze Anton". Paratype.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Hydref 2011. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Georgian alphabet animation ar YouTube, cyhoeddwyd gan Adran Addysg a Gwyddoniaeth Georgia]] sy'n rhoi sain i bob llythyren, mewn sawl ffong, a threfn llunio'r llythrennau â llaw
- "Siart Unicode (10A0–10FF) ar gyfer yr wyddor Sioraidd" (PDF). (105 KB)
- Cân yr wyddor Georgeg] ar Youtube