Thomas Trefnant
Gwedd
Thomas Trefnant | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Bu farw | 29 Mawrth 1404 |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Henffordd, esgob esgobaethol |
Esgob Henffordd ar ddiwedd y 14g a throad y 15g oedd Thomas Trefnant neu Thomas Trevenant (bu farw 29 Mawrth, 1404). Roedd yn Gymro o'r Gororau.[1]
Treuliodd gyfnod fel Canon Llanelwy a Lincoln. Cafodd ei enwebu i fod yn esgob Henffordd ar 5 Mai 1389 a'i gysegru yn y swydd ar 20 Mehefin 1389, gan olynu John Gilbert. Bu farw yn y swydd ar 29 Mawrth 1404.[2] Ei olynydd oedd Robert Mascall.
Cynhaliwyd prawf llys Gwallter Brut, y Lolard o Gymro a gyhuddwyd o heresi, dan ofal Thomas Trefnant yn Henffordd yn 1390. Un o'r twrneiod ar ran yr eglwys yn yr achos oedd Adda o Frynbuga, sy'n enwog am ei Gronicl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Davies, R. G. (2004). "Trefnant [Trevenant], John (d. 1404)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/41197.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ Fryde, Handbook of British Chronology (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1996), tud. 251.
Rhagflaenydd: John Gilbert |
Esgob Henffordd 1389 – 1404 |
Olynydd: Robert Mascall |