Neidio i'r cynnwys

Irisarri

Oddi ar Wicipedia
Irissarry
Mathcymuned Edit this on Wikidata
LL-Q117707514 (oci-whistled)-Univòc64-Irisarri.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth913 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sircanton of Iholdy, Pyrénées-Atlantiques, Nafarroa Beherea, arrondissement Baiona Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd26.39 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr225 metr, 149 metr, 839 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHélette, Iholdy, Jaxu, Macaye, Mendionde, Ossès, Suhescun Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.2569°N 1.2336°W Edit this on Wikidata
Cod post64780 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Irissarry Edit this on Wikidata
Map

Mae Irisarri ([ iʁ̞is̺aʁi]) yn bentref ac yn fwrdeistref yng Ngwlad y Basg, yn rhanbarth Nafarroa Beherea.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Amgylchedd naturiol

[golygu | golygu cod]

Mae afon Laka, sy'n llifo i afon Errobi, yn mynd trwy'r pentref. Hefyd rhai o lednentydd afon Laka: afonydd Elhur, Oihanhandia, Gatarri a Larhan.

Bwrdeistrefi sy'n ffinio ag Irisarri

[golygu | golygu cod]
  • Heleta yn y gogledd
  • Ortzaize yn y gorllewin
  • Iholdi a Suhuskune yn y dwyrain

Tai a chymdogaethau

[golygu | golygu cod]
  • Baigura
  • Pagotzona
  • Basaburu
  • Otsateheta
  • Etxalgi
  • Oihanhandi
  • Plaza

Daeth pentref Irisarri i fodolaeth wrth adeiladu'r Ospitalea a sefydlwyd yn y 12g, tua'r flwyddyn 1150, gan Farchogion yr Ysbyty. Tua'r flwyddyn 1530 daeth dan reolaeth Urdd Malta.

Yn 1350, yr oedd 23 o dai yn Irisarri, a phob un ond dau yn perthyn i'r Marchogion, gyda'u preswylwyr yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol.

Yn 1607, lansiodd Martin de Larrea, arglwydd Irisarri, y gwaith o ailadeiladu’r Ospitalea, gan greu un o adeiladau harddaf Nafarroa Beherea. Adnewyddwyd yr ystafell weddi hefyd a'i throi'n eglwys y pentref. Trawsnewidiwyd yr eglwys yn 1860.

Treftadaeth

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o adeiladau i'w gweld yn y pentref, llawer ohonynt o'r 17gDyma rai adeiladau pwysig:

  • Mae bryngaer ar fynydd Baigura uwchben y pentref.
  • Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yw eglwys blwyf Irisarri, mae'r elfennau hynaf o'r 15g a'r 16g.
  • Yr Ospitalea, gweler uchod. Mae Canolfan Addysg Treftadaeth ynddi bellach.
  • Croes Irisarri, heneb ger yr Ospitalea
  • Fferm Bidegaina, o'r 17g
  • Fferm Zaldunbidea.
  • Palas Gazteluberria.
  • Fferm Iturraldea, o'r 18g

Economi

[golygu | golygu cod]

Mae economi'r ardal yn seiliedig ar amaethyddiaeth. Roedd y ffair hyrddod a oedd yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn y dref yn boblogaidd iawn.[1]

Demograffeg

[golygu | golygu cod]
Poblogaeth Irisarri

Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Mae'r pentref wedi'i leoli ar y ffordd Errobi, amrywiad o Ffordd Sant Iago. Defnyddiwyd y llwybr hwn gan bererinion i ar eu ffordd o o Baiona cyn croesi'r Pyreneau o Donibane Garazi.

Oriel luniau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Philippe Veyrin, Les Basques,Arthaud 1975. 44. orrialdea