Neidio i'r cynnwys

Glasgow

Oddi ar Wicipedia
Glasgow
Mathdinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, lieutenancy area of Scotland Edit this on Wikidata
Poblogaeth626,410 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPhilip Braat Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantCyndeyrn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYr Alban Edit this on Wikidata
SirDinas Glasgow Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd3,298 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Clud, River Kelvin Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAberfoyle, De Swydd Lanark Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.8611°N 4.25°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS19000510 Edit this on Wikidata
Cod OSNS590655 Edit this on Wikidata
Cod postG1-G80 Edit this on Wikidata
GB-GLG Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPhilip Braat Edit this on Wikidata
Map

Dinas fwya'r Alban yw Glasgow (Brythoneg: Glascou[1] Gaeleg yr Alban: Glaschu;[2] Sgoteg: Glesca)[3] a pedwaredd dinas fwyaf gwledydd Prydain o ran maint[4]. Saif ar Afon Clud yng ngorllewin iseldiroedd y wlad. Er taw Glasgow yw dinas fwyaf yr Alban, Caeredin, yr ail fwyaf, yw'r brifddinas.

Credir bod yr enw, fel llawer o leoedd eraill yn iseldiroedd yr Alban, o darddiad Brythoneg - "glas cau". Dywedir i'r ddinas dyfu ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Sant Cyndeyrn, sydd a chysylltiad cryf gyda Llanelwy.

Sefydlwyd Prifysgol yno yn y 15g. Daeth Glasgow yn brif ganolfan y byd i'r diwydiant adeiladu llongau yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, a daeth yn borthladd pwysig iawn hefyd, ond dirywiodd ei statws rywfaint yn ystod yr 20g. Caidd ei chyfri hefyd fel ardal a fu'n ganolfan bwysig i ddatblygiad peirianneg trwm.[5] Oherwydd hyn arferid ei galw'n "Second City of the British Empire" am ran helaeth o Oes Victoria a'r cyfnod Edwardaidd.[6]

Yn 2012 cyfrifid hi'n un o 10 o ddinasoedd trin arian mwya'r byd.[7]

Poblogaeth

[golygu | golygu cod]

Yn niwedd y 19eg a dechrau'r 20g cynyddodd Glasgow yn ei phoblogaeth gan gyrraedd ei hanterth (1,128,473) yn 1939,[8] gan ei gwneud y bedwaredd dinas fwya'n Ewrop ar ôl Llundain, Paris a Berlin.[9]

Roedd 585,090 o bobl yn byw o fewn terfynau Dinas Glasgow yn ôl Cyfrifiad 2001, a 1,168,270 gan gynnwys yr ardaloedd trefol o amgylch y ddinas.

Cludiant

[golygu | golygu cod]
Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines
Gorsaf danddaearol Cessnock

Mae gan y ddinas rwydwaith eang o gludiant, rheolir gan Bartneriaeth Strathclyde Drafnidiaeth, er defnyddir cwmnïau preifat i redeg mwyafrif ei gwasanaethau.

Bysiau

[golygu | golygu cod]

Mae rhwydwaith eang o wasanaethau bws ar draws a thu hwnt y ddinas. Y brif gwmnïau bws yw First Glasgow, Gwasanaethau bws McGill, [[Stagecoach Gorllewin y Prif orsaf bws y ddinas yw Gorsaf Bws Buchanan.

Rheilffyrdd

[golygu | golygu cod]

Mae gan Glasgow 2 brif orsaf reilffordd, Gorsaf reilffordd Glasgow Canolog, sydd yn cysylltu â Chaeredin, y de a Lloegr, a Gorsaf reilffordd Glasgow (Heol y Frenhines), sydd yn cysylltu â’r gogledd a Chaeredin[10]. Mae hefyd rhwydwaith eang o wasanaethau lleol, trefnir gan SPT (Strathclyde Partnership for Transport) sydd yn cynnwys 12 o awdurdodau lleol, gan gynnwys Glasgow. Mae SPT yn gyfrifol hefyd am Reilffordd Danddaearol Glasgow, sydd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas.[11]

Meysydd awyr

[golygu | golygu cod]

Mae gan y ddinas 2 faes awyr; Maes awyr Glasgow[12] a Maes awyr Prestwick.[13][14]

Fferi Renfrew

[golygu | golygu cod]

Mae fferi’n croesi Afon Clud rhwng Renfrew a Yoker. Mae Cwmni Clyde Link yn rhedeg y wasanaeth.[15]

Fferi Govan

[golygu | golygu cod]

Mae Fferi Govan yn croesi’r afon rhwng Govan ac Amgueddfa Riverside rhwng Gorffennaf a Hydref.[16]

Maes Awyr Awyrennau Môr

[golygu | golygu cod]

Mae Cwmni Loch Lomond Seaplanes yn rhedeg gwasanaethau rhwng Glasgow, Oban a Tobermory, yn mynd o’r afon.[15]

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Amgueddfa Hunterian
  • Amgueddfa Kelvingrove
  • Amgueddfa Riverside
  • Arena Hydro SSE
  • Awditoriwm Clud (yr Armadilo)
  • Croes y Farchnad
  • Eglwys gadeiriol
  • Theatr Brenhinol
  • Tolbooth
  • Ystafelloedd Te'r Helygen
Arc Clud
Pont Droed Tradeston

Mae hefyd Twnnel Clud rhwng Govan a Scotstoun.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The Brittonic language in the Old North" (PDF). tt. 91, 142. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-07. Cyrchwyd 2024-05-28.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 3 Hydref 2019
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 14 Ebrill 2022
  4. "World Gazetteer; adalwyd 30 Rhagfyr 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-09. Cyrchwyd 2012-12-30.
  5. "Glasgow Feature Page". Undiscovered Scotland. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2007.
  6. "Victorian Glasgow". BBC History. Cyrchwyd 14 Medi 2010.
  7. "Global Financial Centres Index 10: Glasgow Enters European Top Ten". Cyrchwyd 8 Mehefin 2012.
  8. "Factsheet 4: Population" (PDF). Glasgow City Council. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-07-03. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2007.
  9. "Visiting Glasgow: Clyde Bridges". Cyngor Dinas Glasgow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-03. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2011.
  10. "Gwefan raileurope.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-06. Cyrchwyd 2019-05-06.
  11. Gwefan SPT
  12. Gwefan maes awyr Glasgow
  13. Gwefan maes awyr Prestwick
  14. Gwefan skyscanner.com
  15. 15.0 15.1 Gwefan glasgowlive.co.uk
  16. Gwefan getintogovan.com
  17. "Gwefan discoverglasgow.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-07. Cyrchwyd 2019-07-07.