Helen Crawfurd
Helen Crawfurd | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1877 Glasgow |
Bu farw | 18 Ebrill 1954 Dunoon |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Galwedigaeth | gwleidydd, swffragét |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, Y Blaid Lafur Annibynnol |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ffeminist o'r Alban oedd Helen Crawfurd (9 Tachwedd 1877 - 18 Ebrill 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, gwleidydd Comiwnyddol a swffragét.
Fe'i ganed yn Glasgow ar 9 Tachwedd 1877 a bu farw yn Dunoon yn Argyll a Bute.[1][2][3]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Helen Jack, yn 175 Cumberland Street yn ardal y Gorbals yn Glasgow; rhieni Helen oedd Helen L. Kyle a William Jack. Symudodd ei theulu i Ipswich pan oedd yn ifanc, ac yn ddiweddarach aeth i ysgol yn Llundain ac Ipswich cyn symud yn ôl i Glasgow fel arddegwr. Roedd ei thad, a oedd yn brif bobydd, yn Gatholig ond newidiodd yn aelod o Eglwys yr Alban. Roedd hefyd yn undebwr llafur ceidwadol.[4] [5]
Pan oedd yn ifanc, roedd yn eitha crefyddol ei natur, ond newidiwyd hynny. Priododd â gŵr gweddw Alexander Montgomerie Crawfurd (29 Awst 1828 - 31 Mai 1914), Gweinidog Eglwys yr Alban, yn 9 Park Avenue yn Stirling ar 19 Medi 1898, ond daeth yn gynyddol radical. Bu farw Alexander yn 85 oed yn 17 Stryd Sutherland yn Partick, Glasgow.[6][7][8][9]
Yn 1945, ailbriododd Helen, â George Anderson, gŵr gweddw, o Anderson Brothers Engineers, Coatbridge, aelod o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr. Bu George Anderson farw ar 2 Chwefror 1952 a bu farw Helen yn Mahson Cottage, Kilbride Avenue, Dunoon, Argyll, yn 76 oed.[10][11][12]
Ymgyrchydd dros hawliau merched
[golygu | golygu cod]Daeth Crawfurd yn ymgyrchydd gweithredol gyntaf yn y mudiad i ferched tua 1900, ac yna yn 1910 yn ystod cyfarfod yn Rutherglen pan newidiodd ei chefnogaeth i Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Pankhursts, sef y Women's Social and Political Union (WSPU). Yn 1912, chwalodd ffenestri cartref Jack Pease, y Gweinidog Addysg, a chafodd ddedfryd o garchar am fis. Ym Mawrth 1914, arestiwyd Helen yn Glasgow pan oedd Emmeline Pankhurst yn siarad, derbyniodd fis arall yn y carchar, ac aeth ar streic newyn wyth diwrnod. Ar ôl cael ei harestio ymhellach, gadawodd y WSPU mewn protest gan eu bont yn cefnogi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP).[9][13][13]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ "SR Birth Search for Helen Jack (Statutory Births 644/12 1466)". Scotland's People.
- ↑ Aelodaeth: http://spartacus-educational.com/Wwspu.htm. https://www.wealothianwomensforum.org.uk/ScottishSuffragists/helencrawfurd.html.
- ↑ "OR Birth and Baptism Search CRAWFORD, ALEXANDER (O.P.R. Births 612/01 0020 0089 ST QUIVOX)". Scotland's People.
- ↑ "SR Death Search for Alexander Montgomerie Crawfurd (Statutory Deaths 644/22 0321)". Scotland's People.
- ↑ "SR Marriage Search for CRAWFORD, ALEXANDER M - JACK, HELEN (Statutory Marriages 490/00 0075)". Scotland's People.
- ↑ 9.0 9.1 Ed. A. T. Lane, Biographical Dictionary of European Labor Leaders, Cyfr. 1, pp.224-226
- ↑ "SR Marriage Search Anderson George Crawford Helen COATBRIDGE OR OLD MONKLAND Lanark 652/02 0071". Scotland's People.
- ↑ "SR Death Search ANDERSON, GEORGE (Statutory Deaths 510/02 0002)". Scotland's People.
- ↑ "SR Death Search ANDERSON, HELEN (Statutory Deaths 510/01 0067)". Scotland's People.
- ↑ 13.0 13.1 Leneman, Leah (2000). The Scottish Suffragettes. British Library: NMS Publishing Limited. tt. 58–61. ISBN 1-901663-40-X.