Neidio i'r cynnwys

Tony Goble

Oddi ar Wicipedia
Tony Goble
Ganwyd20 Hydref 1943 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Arlunydd o Gymro oedd Anthony Barton Goble (20 Hydref 1943 – 13 Ebrill 2007).[1]

Ganed Goble yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn i deulu cyfoethog. Bu farw ei dad pan oedd yn faban ac felly treuliodd ei flynyddoedd cynnar yng ngofal teulu Cymraeg ei iaith. Yn ddiweddarach fe'i hadunwyd gyda'i fam a'i chwiorydd hynaf, a oedd wedi symud i Landudno. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Santes Fair, Llandrillo-yn-Rhos a Choleg Celf Wrecsam. Priododd yn 1963 ac ymsefydlodd yn Llanfairfechan. Gweithiodd mewn sawl swydd i gefnogi ei deulu tra'n ceisio gwneud ei enw fel artist.

Daeth Goble yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig ym 1977, cyn cymryd preswyliad yng nghanolfan gelfyddydau Neuadd Llanofer yng Nghaerdydd ym 1979. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Academi Frenhinol y Celfyddydau a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain yn ogystal ag ôl-sylliad 25 mlynedd yn Neuadd Llanofer yn 2004.[2]

Mae gweithiau gan Tony Goble yn cael eu harddangos yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Leeds, Oriel Gelf Glynn Vivian a Chymdeithas Celf Gyfoes Cymru.[1]

Yn 2012, sefydlwyd gwobr er cof amdano yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i rhoddir i artist sy'n arddangos gwaith yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf am y tro cyntaf.[3]

Arddangosfeydd unigol

[golygu | golygu cod]
  • "Dream-Seeds", Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, 1995
  • "25 Mlynedd in Residence", Neuadd Llanofer, 2004[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Wakelin, Peter (2007-04-26). "Tony Goble". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-08-19.
  2. 2.0 2.1 "Exhibition honours artist in residence", WalesOnline, 25 Medi 2004. Cyrchwyd 2013-06-30
  3. "Cyhoeddi enw enillydd gwobr gelf newydd yn yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2012-08-04. Cyrchwyd 2024-08-19.