Ynys Clipperton
Math | ynys, rhestr o diriogaethau dibynnol, Atol, WWF ecoregion |
---|---|
Enwyd ar ôl | John Clipperton |
Poblogaeth | 0 |
Cylchfa amser | UTC−08:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Tiriogaethau tramor Ffrainc |
Sir | Ffrainc |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 6 km² |
Uwch y môr | 29 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 10.2939°N 109.2172°W |
Cod post | 98799 |
FR-CP | |
Rheolir gan | Minister for Overseas France |
Tiriogaeth Ffrainc yn nwyrain y Cefnfor Tawel yw Ynys Clipperton (Ffrangeg: Île de Clipperton), sy'n atol gwrel heb neb yn byw arni. Mae ganddi arwynebedd o 6 km². Fe'i lleolir tua 1,080 km o'r arfordir gorllewinol Mecsico. Mae ganddi'r statws arbennig o fod yn eiddo preifat Gwladwriaeth Ffrainc, o dan awdurdod uniongyrchol Gweinidog y Tramor.
Hanes
Darganfuwyd yr ynys ym 1528 gan Alvaro Saavedra Cedrón a gomisiynwyd gan Hernando Cortés i ddarganfod llwybr i'r Philipinau.[1][2]
Ailddarganfuwyd yr ynys ddydd Gwener y Groglith, 3 Ebrill 1711 gan y Ffrancwyr Martin de Chassiron a Michel Du Bocage. Fe wnaethant lunio'r map cyntaf a hawlio'r ynys am Ffrainc. Cafodd yr enw "Île de la Passion" ("Ynys y Dioddefaint"). Arweiniodd Bocage alldaith wyddonol yno ym 1725.
Daw'r enw cyfredol gan John Clipperton, môr-leidr a phreifatîr o Loegr a ymladdodd y Sbaenwyr yn gynnar yn y 18g. Efallai ei fod wedi ei defnyddio fel man cychwyn ar gyfer ei gyrchoedd.
Hawliwyd yr ynys gan Mecsico yn y 1840au, yr Unol Daleithiau ym 1858 a Ffrainc ym 1858. Fe'i cipiwydd gan Mecsico ym 1897, a phrynodd y British Pacific Island Company hawliau cloddio gwano o'r tir ym 1906. Erbyn 1914 roedd tua 100 o bobl - dynion, menywod a phlant - yn byw yno, yn cael eu cyflenwi bob dau fis gan long o Acapulco.
Ond ym 1914 suddodd y llong gyflenwi. Yn ystod anhrefn y Chwyldro Mecsico a'r Rhyfel Byd Cyntaf anghofiwyd yr ynyswyr. Daeth eu sefyllfa'n fwyfyw enbyd. Bu farw llawer o'r clefri poeth. Erbyn 1917 dim ond 15 o bobl oedd yn fyw. Ar ôl eu hachub ni wnaed mwy o ymdrechion i wladychu’r lle.
Ar ôl proses hir a ddechreuodd ym 1909, o'r diwedd datganodd Vittorio Emanuele III, brenin yr Eidal, gan weithredu fel cymrodeddwr, fod yr ynys yn feddiant Ffrengig.
Cyfeiriadau
- ↑ Vargas, Jorge A. (2011). Mexico and the Law of the Sea: Contributions and Compromises. Publications on Ocean Development. 69. Martinus Nijhoff Publishers. t. 470. ISBN 9789004206205. Cyrchwyd 7 September 2019.
- ↑ Wright, Ione Stuessy (1953). Voyages of Alvaro de Saavedra Cerón 1527–1529. University of Miami Press.