William Baffin
Gwedd
William Baffin | |
---|---|
Ganwyd | 1584 Llundain |
Bu farw | 23 Ionawr 1622 Hormuz Island |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | fforiwr, mapiwr, llenor |
llofnod | |
Morwr o Loegr oedd William Baffin (1584 - 23 Ionawr, 1622), yr enwir Ynys Baffin a Bae Baffin ar ei ôl.
Bywgraffiad
Cafodd Baffin ei eni yn Llundain, yn ôl pob tebyg, yn 1584.
O 1612 hyd 1616 bu'n beilot ar gyfres o fordeithiau i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd-orllewin (y Northwest Passage) yn yr Arctig i geisio ffordd trwodd i'r Cefnfor Tawel. Y pwysicaf o'r mordeithiau hynny oedd y rhai dan arweiniad Robert Bylot yn y Discovery, a aeth â nhw i Gulfor Hudson (1615) ac ymlaen i ddarganfod Bae Baffin (1616). Dyma'r fforio pwysicaf yn yr ardal hyd ddechrau'r 19g pan gadarnhaodd y fforiwr Syr John Ross y darganfyddiadau yn 1818.
Yn ddiweddarach, aeth Baffin i wneud arolwg o'r Môr Coch (1616-1621). Cafodd ei ladd yng ngwarchae Ormuz yn 1622, yn 38 oed.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Jennifer Speake (2003). Literature of Travel and Exploration: A to F (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 61. ISBN 978-1-57958-425-2.