Ieithoedd Indo-Iranaidd
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol |
---|---|
Math | ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ieithoedd Asia |
Yn cynnwys | Ieithoedd Indo-Ariaidd, Ieithoedd Iranaidd, Nuristani |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Ieithoedd Indo-Iraneg yn uwch-deulu o ieithoedd sy'n perthyn i'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Fel mae'r enw yn awgrymu, fe'i siaredir yn bennaf ar is-gyfandir India a'r Iran hanesyddol.
Mae'n ymrannu'n ddwy gangen:
- Ieithoedd Indo-Ariaidd, sy'n cynnwys:
- Sansgrit*, iaith lenyddol hynafol India
- Hindi, prif iaith swyddogol India heddiw, a siaredir fel iaith gyntaf yn y gogledd yn bennaf
- Wrdw, prif iaith Pacistan a Mwslemiaid India
- Bengaleg, iaith Gorllewin Bengal a Bangladesh
- Pwnjabeg, iaith y Punjab
- Cashmireg, iaith ardal Cashmir
- Gwjarati, iaith talaith Gujarat yng ngogledd-orllewin India
- Nepaleg, prif iaith Nepal a siaredir hefyd yn ardaloedd Sikkim a Darjeeling
- Sinhaleg, prif iaith Sri Lanca (Ceylon)
- Ieithoedd Iranaidd, sy'n cynnwys:
- Ffarsi (hen enw: Perseg), iaith swyddogol Iran (Persia)
- Cwrdeg, iaith y Cyrdiaid (dwyrain Twrci, gogledd-orllewin Iran a gogledd Irac yn bennaf)
- Pashto, iaith rhannau o dde-ddwyrain Affganistan a Talaith Ffin y Gogledd-orllewin (North West Frontier Province) ym Mhacistan
- Oseteg, iaith yr Osetiaid sy'n byr ym Mynyddoedd y Cawcasws yn nhalaith Gogledd Osetia yn Rwsia a De Osetia sy'n ansicr ei statws ac yn torri'n rhydd o Georgia